Gyfres Dosbarthiadau Meistr
Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy.
Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy.
Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i:
Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.
Rydyn ni hefyd yn cynnig gweminarau sydd wedi'u dylunio i gefnogi eich cais i'r brifysgol, gan gynnwys cyfleoedd astudio a chyllid sydd ar gael i chi.
Ymunwch â'n dosbarth meistr ar-lein ar Ddatganiadau Personol i ddysgu sut i arddangos dy sgiliau, dy brofiadau a'th angerdd dros dy bwnc. Byddwn yn archwilio beth sy'n gwneud datganiad personol cryf a rhannu awgrymiadau ymarferol, tynnu sylw at gamgymeriadau cyffredin ac yn rhoi'r hyder i ti ddechrau ysgrifennu dy ddatganiad dy hun.
16:30 - 17:30 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Sut gall gwyddoniaeth a DA ein helpu fynd i'r afael â heriau iechyd y dyfodol? Archwiliwch sut mae gwyddonwyr biofeddygol yn ymchwilio i glefydau ac yn cefnogi diagnosis, ochr yn ochr â gwyddonwyr data sy'n defnyddio DA, cyfrifiadura, mathemateg, ystadegau i ddatgelu datblygiadau, gwella triniaethau a thrawsnewid gofal iechyd.
18:00 - 19:00 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Darganfyddwch sut gall astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor drawsnewid eich profiad yn y brifysgol a'ch gyrfa yn y dyfodol. Dysgwch am gyfleoedd Blwyddyn Dramor a Haf Dramor, lleoliadau gwaith Blwyddyn mewn Diwydiant, cyllid a chymorth, a sut mae Abertawe'n helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ledled y byd.
16:30 - 17:30 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Archwiliwch sut y gall tebygolrwydd a modelau mathemategol ein helpu i wneud rhagfynegiadau am ddigwyddiadau ansicr. Drwy enghreifftiau rhyngweithiol a phosau, darganfyddwch sut y gellir defnyddio cadwyni Markov, hapbrosesau a data i ddeall a rhagfynegi beth allai ddigwydd nesaf.
18:00 - 19:00 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Mae'r sesiwn yn trafod rôl Academi Hywel Teifi a Changen Abertawe o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys ysgoloriaethau sydd ar gael am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd trafodaeth ar y cyfleoedd a digwyddiadau fydd ar gael i fyfyrwyr ar gampws ac yn y gymuned i fyw bywyd Cymraeg yn Abertawe.
16:30 - 17:30 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Archwilio sut mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn dod yn eiliadau diwylliannol, gan ddylanwadu ar sgyrsiau am hunaniaeth, rhywedd, gwleidyddiaeth a diwylliant. Darganfod sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli chwaraeon, athletwyr a sefydliadau chwaraeon, a sut mae'r straeon hyn yn dylanwadu ar yr hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei feddwl ac yn ei gredu.

Nid yw entrapiad yn amddiffyniad annibynnol yng nghyfraith Cymru a Lloegr, ond gall llysoedd eithrio tystiolaeth os yw'r ffordd y'i cafwyd yn gwneud achos llys yn annheg. Archwilia’r weminar hon y gwahaniaeth rhwng rhoi cyfle i droseddu ac ysgogi troseddu'n weithredol ac yn ystyried y tegwch o ddibynnu ar dystiolaeth a geir drwy ymgyrchoedd pigo.
18:00 - 19:00 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Sut rydych chi'n gwneud i foleciwl ymddwyn fel y dymunwch? Darganfyddwch sut y gall newidiadau bach mewn strwythur moleciwlaidd drawsnewid ei briodweddau. O ddylunio moleciwlau synthetig a deunyddiau clyfar i fireinio priodweddau meddyginiaethau, byddwn yn gweld sut mae modd drin moleciwlau er mwyn gwneud iddynt ymateb, gweithredu a pherfformio.
18:00 - 19:00 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Drwy anfon eich ymholiad rydych yn caniatáu i'ch data gael ei gadw gan Brifysgol Abertawe. Defnyddir eich data er dibenion delio â'ch ymholiad ac anfon y wybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe'n trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti. Os dymunwch dynnu'ch enw oddi ar gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP neu e-bostiwch ni.
Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol, archwilio sawl pwnc o ddiddordeb a gofyn cwestiynau am y cwrs.
Os ydych yn ansicr o ba bwnc hoffech chi ei astudio yn y brifysgol dyma eich cyfle i gael rhagflas o’n cyrsiau.
Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.
Recordiadau Dosbarthiadau Meistr yr Gwanwyn 2026
Os ydych chi wedi colli allan ar ymuno ag ein Dosbarthau Meistr, Hydref 2025, paid a phoeni. Gallwch wylio recordiad o unrhyw sessiwn sy'n dal eich sylw.
Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol, archwilio sawl pwnc o ddiddordeb a gofyn cwestiynau am y cwrs.
Os ydych yn ansicr o ba bwnc hoffech chi ei astudio yn y brifysgol dyma eich cyfle i gael rhagflas o’n cyrsiau.
Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.
Recordiadau Dosbarthiadau Meistr yr Hydref 2025