Alaina Turner

Alaina Turner

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Troseddeg

Ym mha gyfadran ydych chi’n gweithio?

Rwy’n gweithio yn yr Adran Droseddeg yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Beth oedd eich rhesymau dros astudio ym Mhrifysgol Abertawe?


Penderfynais i ddychwelyd i faes addysg ar ddechrau fy 40au ar ôl treulio 20 mlynedd yn niwydiant TG. Gwnes i loywi fy addysg drwy gwrs mynediad yng ngholeg addysg bellach lleol a gwneud cais i Brifysgol Abertawe i astudio Troseddeg.


Dechreuais i ar fy antur yn yr Adran Droseddeg ym mis Medi 2015, gan gwblhau BSc yn haf 2018 lle cefais radd dosbarth cyntaf yn ogystal â thair gwobr am y perfformiad gorau, y marc cyffredinol uchaf am draethawd estynedig, a rhagoriaeth mewn ymchwil â phwyslais ar y plentyn. Roedd y ddwy wobr olaf yn deillio o’m traethawd estynedig yn fy mlwyddyn olaf, a wnaeth helpu i ddiffinio fy niddordeb mewn ymchwil i faes llywio bywydau plant. Wrth i mi gwblhau MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg yn yr un adran, gwnes i gais llwyddiannus i gael lle wedi’i ariannu’n llawn am bedair blynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth yw testun eich ymchwil?


Mae fy ngwaith ymchwil yn archwilio niweidiau cymdeithasol polisïau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan ystyried y strwythurau sy’n cael eu datblygu i gefnogi plant a all achosi niweidiau anfwriadol megis eu gwneud yn gaeth i sefydliadau a chael eu denu at fyd troseddu.

Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?


Mae gwneud graddau israddedig ac ôl-raddedig mewn Troseddeg, lle roedd cyfiawnder ieuenctid wrth wraidd fy astudiaethau, a chael fy magu mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe, lle roedd cyfradd uchel o droseddau, wedi ennyn fy niddordeb yn y sbardunau sy’n mynd â rhai plant ar lwybr troseddol a all lywio gweddill eu bywydau.

Beth hoffech i’ch gwaith ymchwil ei gyflawni?


Gobeithio y bydd fy ymchwil, lle byddaf yn gweithio’n agos gyda phlant, darparwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n llunio polisïau, yn meithrin dealltwriaeth newydd o’r ffyrdd y gall niweidiau cudd effeithio ar fywydau plant a newid y bywydau hynny.

Beth yw prif fanteision gwneud eich gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?


Mae llawer o bethau sy’n sicrhau bod gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad unigryw a gwerthfawr. Yn gyntaf, mae’r Adran Droseddeg yn ystyried bod pob un o’i myfyrwyr yn rhan o’r tîm. O gychwyn cyntaf eich gradd israddedig, rydych chi’n teimlo bod y staff academaidd yn eich cefnogi ar bob cam. Yn ail, mae’r tîm ymchwil ôl-raddedig yn cael cefnogaeth ddiwyro gan Undeb y Myfyrwyr, ac yn olaf mae staff academaidd ac ategol y tîm ymchwil ôl-raddedig ehangach yn deall pwysigrwydd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan eu harwain a’u cefnogi, a gwneud popeth posib i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau ac yn cyflawni’r ymchwil orau y gallant.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?


Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf wedi gweithio’n agos gydag aelodau’r Adran Droseddeg a’u cefnogi lle bynnag y bo modd, yn yr un ffordd ag y maent wedi fy nghefnogi innau. Rwyf wedi cael profiad o gyflwyno diwrnodau agored i israddedigion ac ôl-raddedigion, addysgu seminarau i israddedigion, cynrychioli’r Brifysgol drwy rôl fel llysgennad a chefnogi fy nghyd-fyfyrwyr drwy swyddi’n cynrychioli Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n gobeithio y bydd fy mherthynas â’r Brifysgol yn parhau drwy gydol fy nghwrs PhD a’r tu hwnt. Mae addysg yn rhodd arbennig ac rwy’n teimlo y byddai’n fraint i’w chyflwyno i fyfyrwyr y dyfodol.