Alix

Alix Bukkfalvi-Cadotte

Gwlad:
Canada
Cwrs:
PhD Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd

Ym mha gyfadran rydych chi'n gwneud eich gwaith ymchwil?

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywy

Sut daethoch chi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Cwympais mewn cariad â Chymru pan roeddwn i'n intern yng Nghaerdydd yn 2019. Pan ddaeth yr amser i ddewis sefydliad ar gyfer fy PhD, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau dod yn ôl i'r ardal! Des i ar draws yr adroddiad ar gyfer yr astudiaeth Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (HEAR), ac roeddwn i'n meddwl mai dyma'r union fath o ymchwil yr hoffwn i gymryd rhan ynddi. Cysylltais i ag ymchwilwyr y prosiect hwnnw, a gwnaethant gytuno i oruchwylio fy ymchwil ddoethurol ar bwnc tebyg!

Beth yw eich pwnc ymchwil?

Rwy'n astudio profiadau gofal mamolaeth pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Rwyf bob amser wedi ymddiddori yn y profiad o famolaeth - digwyddiad ffisiolegol, personol, a chymdeithasol-ddiwylliannol. Mae canolbwyntio ar anghydraddoldebau mewn gofal mamolaeth yn fy ngalluogi i archwilio sut mae grwpiau gwahanol yn profi gofal iechyd ac amlygu anghyfiawnderau posibl.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?

Drwy fy ymchwil, rwyf am gael dealltwriaeth well o'r amrywiadau mewn darpariaeth a phrofiadau gofal mamolaeth a thynnu sylw at annhegwch posibl. Yn y pen draw, rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn llywio polisi ac ymarfer clinigol i wella ansawdd gofal mamolaeth i bawb.

Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r gymuned myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn weithgar ac yn groesawgar iawn! Mae'n amgylchedd hyfryd i weithio ynddo, yn enwedig o ystyried y gall PhD fod yn eithaf ynysig.

Beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol?

Am y tro, rwy'n canolbwyntio ar gwblhau fy ngwaith casglu data a gorffen fy PhD! Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio mynd yn ôl i Ganada a dilyn gyrfa mewn ymchwil iechyd.