Andie Ouso
- Gwlad:
- Kenya
- Cwrs:
- BSc Cyfrifiadureg
Beth ddylanwadodd ar eich penderfyniad i astudio yn y DU, ac yn benodol yn Abertawe?
Roeddwn i wedi astudio mewn system Brydeinig yn yr ysgol uwchradd felly teimlodd yn naturiol i mi ddod i'r brifysgol yn y DU. Doeddwn i ddim wedi clywed llawer am Gymru nes i mi gael gwybodaeth am Brifysgol Abertawe. Roeddwn i’n chwilfrydig am y diwylliant a meddyliais y byddai'n hwyl ei brofi.
Beth yw eich profiad o’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn fywiog ac yn amrywiol gan gynnig llawer o glybiau a chymdeithasau. Rwyf wedi mwynhau rhoi cynnig ar sawl un ohonynt ac rwyf wedi cael profiad gwych bob tro yn ogystal â chwrdd â phobl arbennig.
Sut brofiad oedd addasu i'r gwahaniaethau rhwng eich gwlad frodorol a'r DU?
Mae addasu i'r gwahaniaethau rhwng fy mamwlad a'r DU wedi bod yn brofiad diddorol iawn.
Rwyf wedi teithio ers oeddwn i'n ifanc ac rwyf bob amser wedi croesawu amgylcheddau a diwylliannau newydd yn llawn brwdfrydedd. Doedd symud i'r DU ddim yn wahanol - pennod newydd gyffrous arall
ar fy nhaith archwilio. Es i ati â’r un chwilfrydedd a hyblygrwydd sydd wedi fy nhywys drwy gydol fy mywyd. Mae agweddau gwahanol diwylliant y DU, o arferion cymdeithasol i'r tywydd, wedi rhoi
cyfleoedd newydd i mi ddysgu a thyfu gan wneud y newid hwn yn brofiad gwobrwyol.
Pa fath o gefnogaeth rwyt ti wedi ei derbyn gan y Brifysgol fel myfyriwr rhyngwladol?
Mae gan y Brifysgol adran BywydCampws Rhyngwladol y gallwch gysylltu â hi drwy e-bost, sgwrs fyw neu wyneb yn wyneb ar unrhyw adeg. Roedden nhw’n gymwynasgar iawn wrth gynorthwyo gyda'm cais am fisa a'r estyniad ac roedden nhw’n gefnogol iawn wrth ateb fy holl gwestiynau a phryderon.
Sut byddech chi’n disgrifio eich profiad o fyw yn Abertawe?
Mae byw yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwych. Mae'r ddinas yn gydbwysedd perffaith rhwng byw yn y ddinas a harddwch naturiol. Rwyf wrth fy modd bod popeth mor agos - mae'r traethau hardd, y parciau godidog a chanol y ddinas bywiog oll yn hawdd eu cyrraedd.