Lleolir yr  Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn ein Ffowndri Gyfrifiadol ragorol ar ein campws hardd ar lan y môr, Campws y Bae. 

 Mae'r cyfleuster o'r radd flaenaf hwn sy'n werth £32.5 miliwn yn darparu'r cyfleusterau addysgu ac ymchwil o safon uchel diweddaraf, yn ogystal â lle i'n partneriaid diwydiannol gydweithio â ni a phrofi syniadau newydd ac i fyfyrwyr ac ymchwilwyr weithio ar broblemau'r byd go iawn mewn amgylchedd llawn ysbrydoliaeth.

 Trwy'n graddau israddedig ac ôl-raddedig uchel eu bri, byddwch yn barod ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod eang o ddiwydiannau neu'n barod i gynnal ymchwil arloesol. 

Guardian Top 25 Ranking