Cara Medi Walters

Cara Medi Walters

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BA Cymraeg

Dewis annatod oedd astudio yma ym Mhrifysgol Abertawe! Doedd dim dwywaith amdani! Dyma’r lle i mi a dyma un o ddewisiadau gorau fy mywyd.

Mae’r cyfleoedd dwi wedi dewis wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn anhygoel! A llaw ar fy nghalon credaf ni fydden wedi derbyn y profiad a’r gefnogaeth yma yn unrhyw brifysgol arall. O’r dechrau’n deg pan fynychais ddiwrnod agored, roedd pob aelod o staff yn gefnogol iawn ac mi deimlais yn gartrefol yn syth. Gan mai nifer fach ohonom sydd yn yr adran Gymraeg mae pawb yn adnabod ei gilydd yn dda ac mae’r darlithwyr hefyd yn eich nabod sy’n wahanol i bynciau sydd â nifer fawr o fyfyrwyr. 

Wrth i mi bwyso a mesur pa brifysgol i fynychu mi wnes i ddarganfod mai prifysgol Abertawe oedd y lle delfrydol i mi wrth i’r cwrs israddedig Cymraeg cynnig modiwlau llenyddol, cyfreithiol, gwleidyddol, creadigol yn ogystal â sgiliau i’r byd gwaith megis ysgrifennu datganiadau personol.

Fe fues i’n ddigon ffodus i dderbyn prif ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth astudio yma ym mhrifysgol Abertawe! Er mwyn derbyn y brif ysgoloriaeth mae rhaid astudio 66% o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe fuodd yr arian yma yn gymorth mawr i mi wrth astudio yn y brifysgol a does dim rhaid talu ceiniog ohono yn ôl!

Dwi’n rhan o’r Gymdeithas Gymraeg a’r gymdeithas gorawl o fewn y brifysgol. Fe fues i’n ysgrifenyddes ar gyfer y GymGym yn fy ail flwyddyn yn ogystal â swyddog Cymraeg i gôr y brifysgol. Yn ystod fy amser yn y brifysgol sefydlwyd Aelwyd yr Elyrch sy’n cyfuno fy angerdd tuag at yr iaith Gymraeg a cherddoriaeth.

Ar ôl graddio, mae digon o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg – o astudiaethau ôl-radd i ddysgu at fynd teithio. Mae digon o ddewis! Dwi ddim yn sicr beth dwi am wneud eto ond dwi bendant am ddefnyddio fy ngradd Gymraeg er mwyn ysbrydoli eraill i ddysgu ac i ddefnyddio’r iaith!

Fy hoff bethau am astudio yma yn Abertawe:

  • Mae lleoliad y campws yn fendigedig! Y llwybr arfordirol, y traeth a digon o lefydd i ddarganfod!
  • Teulu Abertawe – Mae pawb ym Mhrifysgol Abertawe fel un teulu mawr, mae pawb yn eich croesawi â dwylo agored!
  • Digon o lefydd i fwyta – O hufen iâ Joe’s i Slug and Lettuce mae rhywbeth at ddant pawb!

A’m llaw ar fy nghalon, ni allaf ddychmygu ba fath o le byddai Brifysgol Abertawe heb adran y Gymraeg a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Academi Hywel Teifi, cefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal ag adran Gymraeg Prifysgol Abertawe wedi bod yn arbennig! Edrychaf ymlaen at orffen fy ngradd gan weld lle fydd fy siwrnai nesaf!