Chenyu Tao

Chenyu Tao

Gwlad:
China
Cwrs:
MSc Cyfrifiadureg

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Yn gyntaf mae'r traeth, sy'n lle da iawn i fynd am dro neu redeg neu i wneud gweithgareddau mewn tywydd braf, ac eithrio diwrnodau gwyntog a glawog.
  • Yn ail mae'r amgylchedd cyfeillgar a heddychlon, mae'r rhan fwyaf o drigolion Abertawe yn gynnes ac yn braf, does dim angen poeni gormod am wahaniaethu ar sail hil neu senoffobia.
  • Yn drydydd, 'dyw'r ddinas ddim yn fawr iawn, os ydych chi'n byw yng nghanol y ddinas, mae'n bosibl cyrraedd y rhan fwyaf o leoedd ar droed, sinema, bwyty, archfarchnad, neu orsaf drenau os ydych chi am gael taith fer ar y penwythnos. Mae'n gyfleus iawn ar gyfer byw.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Mae sawl rheswm pam rwy'n dewis Abertawe, fel myfyriwr rhyngwladol; yn gyntaf mae angen i mi ddod o hyd i wlad i wneud fy ngradd meistr, mae'r DU yn darparu rhaglen meistr am flwyddyn sy'n werthfawr ar gyfer arbed amser ac arian; nesaf, rydw i am ddod o hyd i ysgol sydd ag enw academaidd da mewn cyfrifiadureg, ac sydd hefyd yn derbyn myfyrwyr nad oes ganddynt gefndir mewn rhaglennu. Mae Abertawe'n bodloni'r ddau amod hyn.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae'n darparu modiwlau hanfodol i fyfyrwyr trosi gael dealltwriaeth gadarn o gysyniadau cyfrifiadurol damcaniaethol, a sgiliau rhaglennu ymarferol; hefyd algorithmau uwch a chysyniadau strwythurau data, sy'n rhoi'r fantais i chi wrth gyflwyno cais am swydd. Gyda'r hyn rydych chi'n ei dysgu ar y cwrs hwn, nid mwnci côd yn unig fyddwch chi, ond gwyddonydd cyfrifiadurol.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Bwriadu dod o hyd i swydd fel peiriannydd rhaglennu.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Rwy'n credu y byddai Prifysgol Abertawe yn ddewis gwych i fyfyrwyr sy'n ffafrio amgylchedd heddychlon a thawel, hefyd, nad ydynt am dalu ffioedd dysgu drud. Rwy'n gwybod bod yr adran beirianneg yn wych, felly byddwn i'n awgrymu bod myfyrwyr peirianneg yn ystyried Prifysgol Abertawe.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, os yw'r cynllun myfyrwyr llysgennad yn cael ei ystyried yn swydd ran-amser. Mae'r profiad o weithio gyda llysgenhadon eraill yn bleserus ac yn gofiadwy, yn ystod y diwrnod agored neu'r digwyddiad allgymorth ces i gyfle i adnabod pobl o bynciau gwahanol.