Esther Magano Nantana

Esther Magano Nantana

Gwlad:
Namibia
Cwrs:
MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd

Eich 3 hoff beth am Abertawe:
- Mae'n ddinas dawel a heddychlon.
- Pobl gyfeillgar
- Diogelwch

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Mae cyrsiau iechyd Abertawe'n cael eu hargymell yn fawr ac mae safleoedd da ganddynt mewn tablau cynghrair. Mae'r gwaith cwrs ar gyfer y rhaglen yn canolbwyntio ar agweddau damcaniaethol, sy'n wych ar gyfer ymchwil.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae'n rhoi rhyddid a hyblygrwydd imi gymhwyso disgyblaethau iechyd y cyhoedd i faterion rwy'n frwdfrydig amdanynt.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n gobeithio gweithio ym maes ymchwil a pholisi yn llywio ymyriadau ar gyfer rhoi terfyn ar drais gan bartneriaid agos a thrais yn erbyn menywod.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, mae'r sefydliad yn ofalgar tuag at fyfyrwyr.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Ydw, ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Mae'n lle gwych i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd am ganolbwyntio ar eu hastudiaethau heb lawer o amhariadau.