Hannah Nguyen

Hannah Nguyen

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
MSc Dulliau Ymchwil Mewn Seicoleg

Dw i’n dod o America ac yn bwriadu dychwelyd gyda fy MSc, a'm gobaith yw y gall fy helpu i feithrin fy ngyrfa mewn gwaith rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.

Y prif gyfuniad o ffactorau a wnaeth fy argyhoeddi i astudio yma oedd y dysgu fforddiadwy, llety a rhaglen academaidd achrededig a thrwyadl Prifysgol Abertawe. Yn ogystal, darllenais lawer o adolygiadau cadarnhaol iawn gan fyfyrwyr a oedd yn canmol ymrwymiad Prifysgol Abertawe tuag at amrywiaeth ac adnoddau ymchwil cryf a chyfrannodd hyn at fy mhenderfyniad hefyd.

Cefnogaeth barod fy athrawon a'm mentoriaid, yn ogystal â chwrdd â chymuned amrywiol o gyd-fyfyrwyr. Dw i wedi cwrdd â phobl yn fy ngharfan fydd yn aros yn ffrindiau gydol oes dw i’n siŵr ac efallai yn gydweithwyr i mi yn y dyfodol hyd yn oed.

Mae'r ansawdd addysgu cyffredinol yn rhagorol ym Mhrifysgol Abertawe. Un o'm hoff bethau am Brifysgol Abertawe yw bod yr athrawon yn gwneud eu gorau i ymateb yn brydlon i ymholiadau myfyrwyr, a hynny o fewn 48 awr. Dw i wedi gofyn i lawer o fy athrawon am arweiniad ac maen nhw i gyd wedi bod yn hapus i helpu. Yn ogystal, mae'r adborth y mae'r athrawon yn ei roi wedi bod yn graff a defnyddiol iawn ar gyfer annog twf, meddwl yn feirniadol, a meithrin fy nysgu.

Mae'r disgwyliad i gwrdd unwaith yr wythnos ar gyfer seminar ac yna gwneud y rhan fwyaf o'r darllen ac ysgrifennu trwm y tu allan i'r dosbarth yn cyd-fynd yn dda iawn â'r arddull ddysgu annibynnol dw i’n ei ffafrio. Mae'n gwneud i mi deimlo fy mod wedi dewis prifysgol a chwrs sy'n cyd-fynd yn dda iawn â'm nodau a'm llif gwaith. Fy hoff fodiwl hyd yma yw Prosiectau Empiraidd, gan fod myfyrwyr yn cael mynd ar drywydd pwnc y mae ganddyn nhw ddiddordeb penodol ynddo, ond dw i wedi darganfod bod yna ddeunydd sylweddol o werth i'w ddysgu o bob un o'm modiwlau beth bynnag. Dw i’n meddwl mai'r traethawd hir dw i’n gweithio arno ar hyn o bryd fydd fy ffefryn cyn hir, gan y byddaf yn cael mynd ar drywydd prosiect wedi'i deilwra i'm diddordebau fy hun bryd hynny hefyd.

Dw i wedi mynychu sesiwn gyflogadwyedd ar sut i baratoi ar gyfer ffair yrfaoedd, yn ogystal â mynychu ffair yrfaoedd go iawn. Roedd y cyngor ar rwydweithio a roddwyd gan y tîm gyrfaoedd yn ddefnyddiol iawn. Fe wnaeth mynychu'r ffair yrfaoedd olygu fy mod i wedyn wedi ymuno â rhaglen fentora, sydd wedi bod o gymorth mawr ar gyfer fy nodau gyrfa yn y dyfodol. Byddwn yn cynghori darpar fyfyrwyr i edrych ar yr holl gyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y tîm gyrfaoedd a mynychu rhai ohonyn nhw os yw amser yn caniatáu. Efallai fod y buddsoddiad yn ymddangos fel cam bach nawr, ond o fy mhrofiad i, gall y buddsoddiadau, yr ymdrechion, yr amser a'r cysylltiadau hynny gyfrannu tuag at ddatblygu gyrfa werth chweil - daw'r gwobrau yn nes ymlaen ond mae angen buddsoddi'r amser yn gynnar. 

Dw i wrth fy modd fy mod i'n ymchwilio i wybodaeth sy'n berthnasol i'm gyrfa a'r ffaith ’mod i wedi dod o hyd i ddisgyblaeth dw i’n teimlo cyffro go iawn am ymrwymo rhan sylweddol o fy nyfodol iddi. Mae'r deunydd a'r fethodoleg dw i’n eu hastudio yn cyd-fynd yn agos â'r union fath o waith dw i’n dymuno'i wneud yn ddiweddarach, a dw i’n hyderus y byddaf yn gallu cymhwyso'r sgiliau hyn i'r farchnad swyddi yn fy ngwlad enedigol.

Dw i'n hanu o ranbarth Gogledd-orllewin Môr Tawel America, ac mae'r tywydd yn Abertawe yn debyg iawn i'r tywydd gartref. Dw i wrth fy modd â'r awyrgylch o gyfeillgarwch yn y Brifysgol. Yn olaf, dw i wrth fy modd bod cyfleusterau fel siopau bwyd a llyfrgelloedd lleol o fewn pellter cerdded.

Byddwn i'n awgrymu edrych yn fanwl ar y rhaglen academaidd o ddiddordeb i weld a yw'n cyd-fynd yn dda â'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn bersonol, roeddwn i’n teimlo mai fy mhrofiadau, fy sgiliau a'm nodau ar y rhaglen o'm dewis sydd wedi cyfrannu fwyaf at fy mhrofiad cadarnhaol cyffredinol yma, gan fod hyn wedyn wedi llywio fy mhrofiad gyda'r modiwlau, ac wrth i mi ryngweithio â'r darlithwyr, mentoriaid a chyd-fyfyrwyr.