Huw Gwynn

Huw Gwynn

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BA Cymraeg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant)

Roeddwn yn teimlo'n gartrefol yn syth pan ddois i yma ar ddiwrnod agored, felly roeddwn i'n gwybod mai Prifysgol Abertawe oedd y dewis gorau i mi.

Rwyf wedi astudio pob math o fodiwlau o Gymraeg Proffesiynol i Ganu Gwleidyddol. Mae cael amrywiaeth o fodiwlau yn grêt ac yn fy helpu i ehangu fy sgiliau. Roeddwn yn hoff iawn o'r modiwl Sgiliau Beirniadol gan fy mod yn cael fy ngorfodi i feddwl mewn ffordd wahanol.

Mae'r gymuned Gymraeg yn glos iawn yn Abertawe. Roeddwn yn byw mewn llety ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ac rwyf wedi dod yn ffrindiau agos gyda nifer o siaradwyr Cymraeg. Mae'r GymGym yn mynd o nerth i nerth hefyd, sydd yn wych i'w weld. Rwyf wedi cael cyfle i fod yn ysgrifennydd cymdeithasol i'r Gymdeithas Gymraeg sydd yn brofiad gwych. Yn ogystal â hyn, cefais interniaeth fel Swyddog Cefnogi Myfyrwyr gydag Academi Hywel Teifi.

Mae fy mhrofiad wedi bod yn wych hyd yma. Rwyf wedi cyfarfod pobl anhygoel ac wedi cael profiadau amhrisiadwy.