Jessica Mead
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Seicoleg
Beth wnaethoch chi cyn eich doethuriaeth?
Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig mewn seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, treuliais i flwyddyn yn cael profiad gwaith. Yn ystod yr amser hwn, roeddwn i'n weithiwr cymorth i unigolion ag anableddau dysgu a/neu anaf i'r ymennydd. Yn ogystal, cefais i swydd fel seicolegydd cynorthwyol cyn i mi gael fy nerbyn ar raglen y ddoethuriaeth.
A allwch chi roi trosolwg byr o bwnc eich doethuriaeth?
Mae fy noethuriaeth yn cyflwyno model lles newydd sy'n estyn y tu hwnt i'r unigolyn. Wrth ymgorffori llwybrau unigol, cymunedol ac amgylcheddol i les, gallwn ni greu model lles sy'n gynaliadwy i ni ein hunain, pobl eraill a'r blaned.
Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?
Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig, gwnes i weithio ar ddatblygu fy nhraethawd hir i'w gyhoeddi. Ar ôl cyflawni'r nod hwn, roeddwn i'n teimlo'r awydd i barhau i ddysgu a'm profi fy hun mewn amgylchedd academaidd. Drwy fy nghontract fel seicolegydd cynorthwyol er anrhydedd, clywais i am gyfle i wneud doethuriaeth gysylltiedig. Cyflwynais i gais amdani a llwyddais i.
Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Roeddwn i'n dwlu ar y ddinas ei hun ac yn teimlo ei bod hi'n cynnig y cyfle i ddilyn yr holl ddiddordebau roeddwn i'n eu mwynhau, felly roeddwn i wedi aros yma ar ôl fy ngradd israddedig. Pan gododd y cyfle i wneud doethuriaeth, des i i wybod am y tîm goruchwylio a'i effaith ar ei feysydd ymchwil penodol. Roeddwn i'n mwynhau bod yn rhan o'r adran seicoleg yn ystod fy ngradd israddedig ac roeddwn i'n edrych ymlaen at fod yn aelod ohoni eto.
Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?
Roedd y gwaith a wnes i fel doethuriaeth yn destun lefel uwch o feirniadaeth nad oeddwn i wedi cael profiad ohoni o'r blaen. Fodd bynnag, sylweddolais i'n fuan mai dyna sut roedd gwyddoniaeth yn gweithio. Pan dderbyniais i bod yn rhaid i mi fod yn agored i feirniadaeth gan gyd-fyfyrwyr, goruchwylwyr ac academyddion eraill, daeth y profiad yn fwy creadigol a phleserus. Roeddwn i bellach yn edrych ymlaen at dderbyn beirniadaeth o'm gwaith gan iddi roi'r ysgogiad a'r wybodaeth i mi addasu'r ymchwil yr hoffwn i ei chyflawni.
Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?
Rwyf wedi meithrin gwybodaeth a chael profiadau mor amrywiol a fyddai wedi bod yn amhosib yn rhywle arall yn fy marn i. Mae cwblhau doethuriaeth yn newid eich meddylfryd er gwell – yn eich bywyd personol yn ogystal â'ch bywyd academaidd. Rwy'n ystyried fy mod i'n berson gwell a mwy cyflawn ar ôl cael y profiad o wneud doethuriaeth nag oeddwn i gynt. Rhaid meddwl yn feirniadol ar lefel sydd ymhell y tu hwnt i unrhyw beth roeddwn i wedi ei wneud o'r blaen, gan fy ngwneud yn berson mwy creadigol a hyblyg.
Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa?
Er nad wyf wedi derbyn fy nghymhwyster eto, rwyf eisoes wedi nodi cyfleoedd am swyddi. Fodd bynnag, er y bydd y cymhwyster ei hun yn agor llawer o ddrysau i mi, rwy'n credu bod y profiad o gwblhau doethuriaeth wedi fy ngwneud i'n berson gwell o lawer a bydd yn denu sylw ata i mewn unrhyw swydd rwy'n ei dal yn y dyfodol. Pe bawn i heb gwblhau fy noethuriaeth, ni fyddwn i wedi ystyried bod y pedair blynedd diwethaf yn wastraff amser ac ni fyddwn i am golli'r profiad, gan fod hyn wedi sicrhau fy mod i'n barod ac yn hyderus i roi cynnig ar fy swyddi delfrydol. Bydda i bob amser yn ddiolchgar am y cyfle hwn – mae ef wedi llywio pwy ydw i heddiw ac mae wedi rhoi cyfleoedd i fi wneud pethau na fyddwn i byth wedi credu y byddwn i'n gallu eu gwneud.
Beth oedd yr uchafbwynt i chi?
Cefais i'r cyfle i gyflwyno un o'm hastudiaethau yn y Gynhadledd Ystyr Ryngwladol, ochr yn ochr ag ymchwilwyr dylanwadol yn y maes, gan gynnwys Scott Barry Kaufman – un o'm harwyr mwyaf erioed. Rwy'n hanu o Gaerfyrddin, tref fach yng Nghymru, ac nid oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i mewn sefyllfa i gwblhau PhD, heb sôn am gyflwyno fy ngwaith yn yr un digwyddiad â gwyddonwyr proffil uchel.