Jodie Loveridge

Jodie Loveridge

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
MRes Biowyddorau

Pam Abertawe?
Dewisais i Brifysgol Abertawe ar gyfer fy astudiaethau israddedig (BSc mewn Bioleg) a mwynheais i gymaint fel fy mod i wedi penderfynu parhau i astudio yma drwy ymgymryd ag MRes yn y Biowyddorau. Mae Prifysgol Abertawe'n ymddangos mewn safle uchel yn nhablau'r gynghrair yn gyson ar gyfer profiad y myfyrwyr a gwnaeth hynny fy nenu yn y lle cyntaf. Roedd bod mor agos at y traeth yn atyniad mawr i rywun sy'n dod o Ganolbarth Lloegr hefyd. Fy hoff beth am adran y Biowyddorau yw pa mor hawdd mynd atynt a chyfeillgar y mae'r staff. Ar ôl i mi raddio, rwy'n gobeithio aros yn Abertawe, dilyn gyrfa ym myd Addysg a rhannu fy mrwdfrydedd am fioleg.

Wyt ti'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, ymunais i â'r gymdeithas ddawns yn y Brifysgol, gan wireddu breuddwyd hirdymor o ddawnsio. Mae'r gymdeithas yn groesawgar iawn, ni waeth faint o brofiad sydd gennych, ac mae hon wedi bod yn ffordd arbennig o gadw'n heini a gwneud ffrindiau newydd. Fy hoff ran yw'r digwyddiad arddangos blynyddol yn Theatr Taliesin ar y campws, sy'n cynnwys gwisgoedd a goleuadau.

Wyt ti wedi byw mewn preswylfa yn ystod dy astudiaethau?
Ydw, roeddwn i'n byw mewn preswylfa yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ac roedd hon yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Yn y diwedd, symudais i i dŷ myfyrwyr gyda thri o'm cydletywr ar gyfer gweddill fy ngradd israddedig ac rydyn ni'n ffrindiau da o hyd.

Wnest ti gyflwyno cais drwy Glirio?
Do, ar ddiwrnod y canlyniadau Safon Uwch, wnes i ddim llwyddo i gael y graddau angenrheidiol i fynd i'r Brifysgol a oedd yn ddewis cyntaf i mi. Galwais i lawer o linellau cymorth clirio, wedi fy nghynhyrfu'n lân, gan bryderu na fyddwn i'n dod o hyd i le. Roedd staff Prifysgol Abertawe'n hynod gyfeillgar a gwnaethant dawelu fy meddwl, gan gynnig lle i mi. Teimlais i ryddhad mawr ac rwyf wedi aros yn y Brifysgol ar gyfer fy astudiaethau ôl-raddedig oherwydd fy mod i wedi'i mwynhau gymaint.

Wyt ti wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod dy radd?
Ydw, rwyf wedi gweithio gyda'r adrannau recriwtio ac allgymorth yn y Brifysgol. Mae hyn wedi cynnwys gweithio i hwyluso diwrnodau agored ac ymweliadau gan ysgolion. Roedd hyn yn wych oherwydd roeddwn i'n gallu gweithio'n hyblyg o gwmpas fy astudiaethau.

Wyt ti wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, mae gennyf ASC (Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistig), ac mae'r gwasanaethau cymorth yn y Brifysgol wedi bod yn ardderchog o ran darparu cymorth yn ystod arholiadau ac aseiniadau. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi gymdeithasu â myfyrwyr eraill sydd â chyflyrau tebyg, fel teithiau cerdded am ddim ag alpacaod!

Wyt ti wedi graddio neu wyt ti'n fyfyriwr presennol?
Rwy'n fyfyriwr MRes ar hyn o bryd ac rwyf hefyd wedi cwblhau fy ngradd BSc mewn Bioleg a'm gradd TAR Uwchradd mewn Bioleg ym Mhrifysgol Abertawe.