Kwan On Samuel Yeung

Kwan On Samuel Yeung

Gwlad:
Hong Kong
Cwrs:
MSc Peirianneg Fecanyddol

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Campws y Bae
  • Traeth Abertawe
  • Y Mwmbwls

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Mae'r coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn uchel ei safle yn y tablau cynghrair, ac yn enwog ledled y byd; Mae Abertawe yn ddinas hardd i fyw ac astudio ynddi.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Gweithgynhyrchu Ychwanegion, gwnaethom ddysgu am argraffu metel 3D, torri â laser, weldio â laser. Gallwn ni ddefnyddio'r argraffydd 3D metel i argraffu ein prosiect. Roedd yn brofiad anhygoel.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Bod yn beiriannydd yn y diwydiant camerâu.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Yn bendant, mae Prifysgol Abertawe yn lle hardd i astudio a byw ynddo.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, mae llawer o glybiau chwaraeon i fyfyrwyr ymaelodi â nhw fel hobi neu'n gystadleuol. Mae Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn trefnu cystadleuaeth rhwng prifysgolion. Mae pob clwb chwaraeon yn rhan o gynghrair BUCS a chystadleuaeth unigol BUCS. Mae'n brofiad rhagorol.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw. Mae cymdeithasau ym Mhrifysgol Abertawe yn croesawu pawb i ymaelodi. Maen nhw'n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn. Cymdeithasau yw'r lle gorau i gwrdd â ffrindiau sydd â'r un diddordebau a hobïau.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Mae'r cynllun Myfyrwyr Llysgennad yn gyfle rhan-amser gwych i fyfyrwyr weithio i'r Brifysgol. Mae'r oriau gwaith yn hyblyg ac yn ddi-straen. Cyfleoedd gwych i ddatblygu CV, cael profiad gwaith a rhwydweithio.