Michele Pfeifer

Michele Pfeifer

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
MSc Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd

Fy nhri hoff beth am y cwrs yw'r cyfleoedd i fynd ar deithiau maes a chael mynd y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yr amrywiaeth o bynciau dan sylw, a rhai o'r bobl dw i wedi cyfarfod â nhw ar y cwrs.

Enillais fy ngradd gyntaf mewn Mathemateg yn Kentucky ac yna gradd mewn geowyddorau a chynaliadwyedd yn Indiana yn yr Unol Daleithiau. Dydw i ddim yn siŵr eto beth dw i am ei wneud nesaf. Mae'n debyg y byddaf yn dod o hyd i ryw fath o swydd sy'n gysylltiedig â System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a'r amgylchedd, ond dydw i ddim yn gwybod ym mhle y gallai hynny fod eto.

Cefais fy nenu i leoliad Abertawe yn y de a'r lleoliad ar y traeth. Fe wnes i gais i ambell brifysgol yng Nghymru a Lloegr ond roedd prifysgolion Cymru yn fy nenu, gan fy mod i'n chwilfrydig i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru. Roedd Abertawe i weld yn ddinas eithaf mawr, ond hefyd yn ddiogel ac yn gyfeillgar, a digonedd o natur o fewn ychydig o bellter. Roedd y cwrs a ddewisais hefyd yn swnio'n ddiddorol, gan ei fod yn cyfuno fy niddordebau mewn GIS yn ogystal â materion amgylcheddol.

Mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau yn orfodol a dim ond ychydig o fodiwlau rydyn ni'n cael eu dewis. Mae hyn ychydig yn wahanol i'r hyn dw i wedi arfer ag e gartref ond dyw hyn ddim yn rhywbeth rhy negyddol. Fe wnes i fwynhau’r modiwl Deinameg Amgylcheddol y semester diwethaf, gan ei fod yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau diddorol a chawsom ambell i daith maes hefyd. Dw i’n mwynhau cael y cyfle i fynd ar deithiau maes neu wneud rhywfaint o waith maes, gan fod hyn yn fy helpu i ddysgu rhai o'r cysyniadau yn well ac yn rhoi cyfle i mi weld rhai o'r ardaloedd cyfagos. 

Mae tîm gyrfaoedd y brifysgol wedi edrych ar fy CV i weld beth sy'n wahanol yn yr hyn a ddisgwylir yma o gymharu â gartref. Dw i wedi bod i ambell ddigwyddiad mae’r tîm wedi’u cynnal hefyd, ond dw i’n gobeithio ymwneud mwy â nhw yn y dyfodol achos dw i’n siŵr y bydd angen rhywfaint o gymorth arna i gyda beth i'w wneud ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Rwyf wedi dysgu rhai sgiliau newydd yma - dw i wedi dod i rywfaint o gysylltiad â gwahanol sgiliau gwaith maes, a dw i’n meddwl y bydd hyn yn werthfawr. Yn ogystal, mae rhai aseiniadau wedi gwneud imi ddadansoddi data go iawn, blêr, sy'n rhywbeth y gallai fod yn rhaid i mi ei wneud yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Dw i wedi gorfod gweithio ar fy sgiliau ysgrifennu a rheoli amser hefyd, sy'n sgiliau defnyddiol ar gyfer unrhyw yrfa dw i’n ei dewis.

Dw i’n aelod o ambell gymdeithas, gan gynnwys y Gymdeithas Ddaearyddiaeth a'r Gymdeithas Coed, er dw i’n cyfaddef nad ydw i wedi bod yn ymwneud llawer â nhw. Ymunais â'r grŵp gwau ar y campws a dw i’n trio dysgu sut i wau, felly mae hynny wedi bod yn braf. Dw i wedi bod i ychydig o ddigwyddiadau a theithiau gwahanol hefyd a gynhaliwyd gan y brifysgol, fel y daith undydd i Birmingham neu'r nosweithiau ffilm, a dw i’n gwerthfawrogi cael y cyfleoedd hynny. 

Fy nhri hoff beth am Abertawe yn gyffredinol yw’r traeth, y diwylliant, a'r ffaith fod y ddinas mor agos i lefydd eraill. Dw i wrth fy modd mod i'n gallu mynd am dro ar y traeth bron bob dydd o fy ystafell, ac mae 'na lefydd natur gwych i gerdded iddyn nhw, fel Parc Singleton a Gerddi Clun. DW i wrth fy modd â Phenrhyn Gŵyr hefyd a pha mor agos ydw i at gynifer o draethau hardd. Mae'n wych cael gweld rhai o'r llefydd gwahanol sy'n llawn diwylliant Cymru, fel  Marchnad Abertawe a'r amgueddfeydd niferus yng nghanol y ddinas. Dw i’n hoffi’r lleoliad yn y de hefyd, oherwydd dyw'r tywydd ddim hanner mor ddrwg â'r disgwyl a dw i’n dal i allu mynd i Lundain neu lawer o lefydd eraill mewn ychydig oriau.

Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dod yma i fynd amdani! Yn amlwg, mae angen gwneud ychydig o waith ymchwil a chysylltu â'r gyfadran a'r staff i wneud yn siŵr ei fod yn addas i chi, ond mae llawer o gyfleoedd ar gael yma, yn ogystal â thraethau gwych, felly dydw i ddim yn credu ei bod yn bosib gwneud camgymeriad wrth ddewis Abertawe. Mae rhywbeth i bawb yma, ac mae Abertawe yn ddinas groesawgar iawn.