Milania Tomic

Milania Tomic

Gwlad:
Montenegro
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Penderfynais astudio'r radd LLM mewn Cyfraith Forwrol ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd y dull modern ac arloesol o addysgu.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ei chydnabod yn rhyngwladol fel sefydliad blaenllaw ym maes cyfraith forwrol. Mae’r modiwlau'n ymarferol a chânt eu cynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y farchnad go iawn ar ôl graddio.

Hefyd, mae'r Adran Llongau a Masnach yn darparu llawer o weithgareddau allgyrsiol megis seminarau gyda darlithwyr gwadd a chyfleoedd ffug lysoedd barn, lle gall myfyrwyr gael cipolwg ar ymarfer a datblygu eu sgiliau i gysylltu'r gyfraith â'r ffeithiau. Ar ben hynny, mae'r adran yn trefnu llawer o gynadleddau y tu allan i'r Brifysgol, mewn sefydliadau morwrol a chwmnïau cyfreithiol lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i rwydweithio ag arweinwyr yn y maes. Heb os, dyma sy’n gweddu orau i ddyfodol fy ngyrfa.