Nidhi Potla

Nidhi Potla

Gwlad:
India
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Rwyf wedi bod yn dilyn y diwydiant morgludiant yn frwd ers y tair blynedd ddiwethaf yn seiliedig ar gefndir fy nhad ym maes ymarfer morgludiant.

Dewisais Abertawe ar gyfer fy nghwrs gradd LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol am ei bod ymhlith y gorau ar gyfer Cyfraith Forwrol. Rwyf hefyd wedi cwblhau Diploma Ôl-raddedig dros ddwy flynedd mewn Morgludiant a Logisteg o sefydliad lled-lywodraethol ym Mumbai a oedd yn cynnwys craidd technegol y byd morgludiant ond nid oedd yn cynnwys elfen addysgol gyfreithiol a oedd wedi’i datblygu’n dda. 

Am fod Cyfraith Forwrol yn faes mor arbenigol, roedd angen cyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol arnaf ac mae rhaglen Prifysgol Abertawe yn sicr yn gymysgedd o elfennau cyfreithiol damcaniaethol ac ymarferol y byd morgludiant. 

Rwy’n cael amser bendigedig ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wedi cynnig llu o gyfleoedd i mi wella fy sgiliau. Mae ein prifysgol yn cynnal darlithoedd gwadd gan yr ymarferwyr morgludiant a’r cyfreithwyr morwrol mwyaf blaenllaw. Mae gen i grŵp anferth o gymheiriaid a ffrindiau o bob cwr o’r byd a theimlaf yn freintiedig fy mod yn gallu ehangu fy rhwydwaith a’m gorwelion yn y diwydiant ymarfer. 

Mae’r Athrawon ym Mhrifysgol Abertawe yn eich hyfforddi chi i fod yn arweinwyr proffesiynol yn y Diwydiant Morgludiant ac er bod gennym ni amrywiaeth eang o fyfyrwyr ar y cwrs nid yw’r Athrawon byth wedi methu â chyfathrebu â phob un ohonom ni’n effeithiol.