Omar
- Gwlad:
- Yr Aifft
- Cwrs:
- BSc Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial
Pam y dewisaist ti astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae gan y Brifysgol safle uchel yn Nhablau'r Gynghrair ac mae hi mewn dinas ddiogel, gymharol fach lle bydd bron pawb o'th gwmpas yn fyfyrwyr. Hefyd, mae hi ger y traeth, sy'n ei gwneud yn unigryw. Mae hi hefyd yn un o brifysgolion gorau'r DU o ran boddhad myfyrwyr.
Beth oedd wedi dylanwadu ar dy benderfyniad i astudio yn y DU, ac yn benodol yn Abertawe?
Fel myfyriwr rhyngwladol, roeddwn i'n ystyried prisiau ac ysgoloriaethau'n bennaf, wrth hefyd gwneud yn siŵr fy mod i'n cael gwerth am arian o ran addysg. Rwy'n gwybod bod mwy o gyfleoedd am swyddi i bobl sy'n astudio yn y DU o'u cymharu â phobl sy'n astudio yn fy ngwlad gartref. Er bod hynny'n llawer anos, rwy'n credu mai'r rheswm dros hyn yw enw da lefel yr addysg yn y DU.
Beth yw dy brofiad o’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?
Roeddwn i wedi drysu ar y dechrau ac yn teimlo'n unig, ond yna, dechreuais i gwrdd â mwy a mwy o bobl a gwnaeth fy nghylch cymdeithasol ehangu llawer yn fy ail semester. Y cymdeithasau rwyf wedi ymuno â nhw yw'r Gymdeithas Arabeg a'r Gymdeithas Islamaidd.
Sut brofiad oedd addasu i'r gwahaniaethau rhwng dy wlad frodorol a'r DU?
Er ei bod yn wahanol iawn, dydw i ddim yn credu bod addasu mor anodd â hynny. O fy arsylwadau, rwy'n teimlo bod pobl yma yn gyfeillgar ac mae pawb yn awyddus i siarad a dod i adnabod ei gilydd ar y strydoedd.
Sut byddet ti'n disgrifio dy brofiad o fyw yn Abertawe?
Yn ei hanfod, mae Abertawe'n ddinas fach i fyfyrwyr; ble bynnag rwy'n mynd, rwy'n gweld wynebau cyfarwydd neu ffrindiau, rwy'n credu bod hynny'n rhoi ymdeimlad o gymuned i mi na fyddai dinas fawr yn gallu ei roi. Er ei bod hi'n fach, mae llawer o bethau rwy'n edrych ymlaen at eu gwneud y flwyddyn nesaf.
Pa gyngor byddet ti'n ei roi i fyfyrwyr eraill sy'n meddwl am astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dylet ti gael hwyl a gwneud cynifer o gysylltiadau ag y gelli di yn dy flwyddyn gyntaf a cheisia dod o hyd i grŵp o ffrindiau a chymryd rhan oherwydd bod pobl am wneud ffrindiau felly dylet ti gymdeithasu gymaint â phosib.