Headshot of Priya smiling

Priya Dodiya

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Seicoleg

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan fod enw mor dda gyda'r Ysgol Seicoleg. Hefyd, mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gael profiad ymarferol drwy astudio seicoleg sy'n hollbwysig er mwyn i fi ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwireddu fy mreuddwyd o fod yn Seicolegydd Addysg. Ar ben hynny, mae Abertawe yn lleoliad gwych sy'n cynnig cymuned gefnogol a phrysur, sy'n berffaith i fi.

Mae'r cwrs seicoleg yn cynnig profiad dysgu cyfoethog ac un o'r elfennau rwy'n ei mwynhau fwyaf yw'r modiwl lleoliad gwaith. Yn ogystal, rydw i'n mwynhau gallu astudio 40 credyd o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn wedi arwain at ffurfio perthynas agosach gyda'r darlithwyr gan ein bod mewn grwpiau llai, sy'n creu amgylchedd astudio mwy cefnogol a phersonol.

Fel myfyrwraig israddedig, rydw i wedi manteisio ar gyfleoedd i gyfoethogi fy amser yn y Brifysgol a hyrwyddo amgylchedd cynhwysol. Rydw i'n cynrychioli'r Brifysgol fel Llysgennad Myfyrwyr ac yn gweithio gyda'r Pwyllgor Cynghori Myfyrwyr ar Gynhwysiant Hiliol sy'n rhoi'r cyfle i mi hyrwyddo amrywiaeth, yn enwedig fel person Indiaidd sy'n rhugl yn y Gymraeg. Mae'r cyfleoedd yma wedi caniatáu i mi gyfrannu'n gadarnhaol at fy nghymuned o fyfyrwyr yn ogystal â galluogi i mi feithrin sgiliau arwain a chyfathrebu gwerthfawr.  Drwy weithio gyda Discovery SVS rydw i wedi cael y cyfle i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a chreu cysylltiadau yn y gymuned wrth gynnal gweithgareddau fel sesiynau creu llwyau caru Cymreig a threfnu Clwb Cymraeg wythnosol, ac i gydnabod fy nghyfraniad, enillais Wobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cefnogaeth eang a gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ac ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i wedi meithrin sgiliau gwerthfawr fydd yn rhoi mantais i mi yn fy ngyrfa fel Seicolegydd Addysg lle mae dealltwriaeth o anghenion ieithyddol a diwylliannol yn sicrhau dull mwy cynhwysol ac ymatebol o gefnogi plant a'u teuluoedd. Mae'r Brifysgol hefyd yn darparu gwasanaethau cefnogi, mentora a chyngor gyrfaol yn y Gymraeg sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i'r iaith ac felly'n sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o brofiad myfyrwyr.

Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried dod i Brifysgol Abertawe yw dewch a manteisiwch ar yr holl gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael i chi, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Abertawe yn cynnig amgylchedd cynhwysol a chefnogol, gyda llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â chynnig profiad personol arbennig.

Dysgu Mwy