Rory Luke Tucker

Rory Luke Tucker

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Seicoleg

A allwch chi roi trosolwg byr o bwnc eich PhD?

Rwy’n ymchwilio i sut mae ymarfer corff yn effeithio ar symptomau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) mewn oedolion. Er bod rhywfaint o ymchwil wedi’i gwneud i’r effeithiau ar blant, mae llawer llai o ymchwil ynghylch oedolion (a menywod hefyd, sy'n ddiddordeb ymchwil arall).

Beth wnaethoch chi cyn eich doethuriaeth?

BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe (2017-2020)

Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?

Yn wreiddiol, roeddwn yn bwriadu dilyn llwybr mwy clinigol ond trwy gydol fy ngradd israddedig, sylweddolais i mai ymchwil oedd yr hyn oedd wir yn fy ysbrydoli a’m diddori. Yn ogystal, roedd fy mhwnc ymchwil o ddiddordeb arbennig i mi gan fy mod wedi sylwi bod fy symptomau ADHD fy hun yn gwella pan oeddwn yn gwneud mwy o ymarfer corff, ond pan es i ati i chwilio am ymchwil amdano, ychydig iawn oedd i’w chael. Felly, roedd gwneud fy ymchwil fy hun i’r pwnc yn cyfuno fy niddordebau proffesiynol a phersonol.

Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Yn rhannol oherwydd roeddwn yn gyfarwydd â'r Brifysgol a'r ddinas ei hun ynghyd â’r ffaith bod gen i eisoes gysylltiadau cymdeithasol cadarn yma. Yn ogystal â hyn, roeddwn i hefyd yn dod ymlaen yn dda iawn gyda staff yr adran Seicoleg a oedd bob amser wedi bod yn barod iawn i’m helpu a’m cefnogi, ac roeddwn yn teimlo y byddai'n wych bod yn rhan o'r gymuned honno.

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?

Heriau mwyaf sylweddol y flwyddyn gyntaf a rhan o fy ail flwyddyn oedd rhwystrau'r pandemig, oedd yn gwneud ymchwil wyneb yn wyneb bron yn amhosib. Roedd hi hefyd llawer anoddach cwrdd â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill a phrofi’r ochr gymdeithasol o astudio ar gyfer doethuriaeth.

Yn ogystal â hyn, mae fy ADHD fy hun (yn eironig) wedi ei gwneud hi'n anoddach cadw trefn ar fy hun a fy ngwaith o ystyried natur weddol ddistrwythur doethuriaeth.

Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?

Yn bennaf, mae gen i ddealltwriaeth lawer gwell o'r byd academaidd a'r broses ymchwil. Rwyf wedi datblygu sgiliau o ran trefnu fy ngwaith, sy'n golygu y gallaf weithio yn annibynnol. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd wir yn anodd imi ar ddechrau fy noethuriaeth.

Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa? Ydy’r cymhwyster eisoes wedi helpu eich gyrfa?

Rwy'n sicr yn bwriadu parhau â gyrfa mewn ymchwil felly bydd fy nghymhwyster yn helpu'n aruthrol gyda hynny, gan ddangos fy mod yn gallu dadansoddi llenyddiaeth bresennol, nodi meysydd angen a chynnal fy ymchwil fy hun. Yn naturiol, wrth wneud doethuriaeth rydych yn derbyn nifer o brofiadau. Bydd fy ngwaith fel Ymgynghorydd Ysgrifennu i Gymheiriaid ac uwch-gynorthwyydd addysgu yn helpu gydag unrhyw rolau addysgol y byddaf yn ymgymryd â nhw.

Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt i chi?

Mae'n debyg mai fy uchafbwynt pennaf hyd yma oedd ennill y wobr gyntaf ar y cyd am fy nghyflwyniad pum munud yng nghynhadledd Ymchwil ôl-raddedig y Gyfadran. Hon oedd y gynhadledd gyntaf i mi gymryd rhan ynddi a'r tro cyntaf i mi gyflwyno fy ngwaith mewn rôl swyddogol felly roedd derbyn y wobr yn dipyn o syrpreis. Yn sicr, fe wnaeth roi hwb i fy hunan hyder a rhoi llawer mwy o gymhelliant imi fwrw ymlaen gyda fy ngwaith.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud astudiaethau ôl-raddedig?

Cymerwch amser i ystyried beth yw eich nodau ymchwil ac ai hwn yw’r cwrs gorau ar gyfer eich dyheadau am y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol bod strwythur doethuriaeth yn wahanol iawn i gyrsiau eraill rydych chi'n debygol o fod wedi eu cwblhau o'r blaen felly byddwch yn barod i gadw eich hun ar y trywydd iawn. Yn bersonol, roedd cael fy swyddfa fy hun yn y brifysgol yn help mawr o ran gwahanu fy mywyd personol a fy mywyd gwaith. Ceisiwch chwilio am gyfleoedd i gwrdd â myfyrwyr ôl-raddedig a chydweithwyr eraill er mwyn creu cysylltiadau proffesiynol a gymdeithasol.