Shazia Bint Ashraf

Shazia Bint Ashraf

Gwlad:
India
Cwrs:
LLM Cyfraith Forwrol Ryngwladol

Mae'r adran Cyfraith Llongau a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe yn adnabyddus iawn yn y byd morwrol. Dyma oedd y dewis amlwg o'r cychwyn cyntaf.

Yr hyn a sicrhaodd i mi mai dyma oedd y dewis cywir oedd y ffordd yr ymdriniodd y Brifysgol â'm cais. Doeddwn i ddim yn cael fy nhrin fel cais di-wyneb. Ymdriniwyd â'm holl ymholiadau mewn modd personol. Roedd yn amlwg bod y staff yn gynnes ac yn groesawgar; maen nhw’n dal i fod. Roedd hi’n teimlo fel dod adref.