Toufeeq Mohammed

Toufeeq Mohammed

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Rheoli Gofal Iechyd

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
• Y traeth
• Stryd Rhydychen
• Marchnad Abertawe

Yn eich barn chi, beth yw'r 3 sgil/profiad pwysicaf sydd eu hangen ar ymgeiswyr er mwyn astudio’r cwrs hwn?
• Cefndir academaidd perthynol yn y gwyddorau iechyd
• Rhywfaint o brofiad gwaith perthnasol yn y sector iechyd, blwyddyn yn ddelfrydol, gyda phrofiad o wasanaethau cwsmeriaid os yn bosibl.
• Lefel sylfaenol o sgiliau meddwl yn feirniadol a llygad craff am fanylion.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Y staff addysgu heb os nac oni bai. Mae'r dull addysgu hwn yn newydd i mi. Ond rwy'n yn ei fwynhau'n llwyr. Rwyf wedi dod i edmygu natur gyfeillgar y darlithwyr a'u hawydd i ateb pob cwestiwn ni waeth pa mor sylfaenol neu wirion.

Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni trwy gwblhau'r radd Meistr hon?
Roeddwn i bob amser eisiau mynd i mewn i reolaeth a gweinyddu. Felly dyma'r cwrs perffaith i mi o ystyried fy mhrofiad gwaith blaenorol. Rwy’n gobeithio datblygu a mireinio fy sgiliau fel ymarferydd gofal iechyd a gallu trosglwyddo a defnyddio’r sgiliau yn gyffredinol. Rwyf hefyd wedi dechrau datblygu hoffter o ddadansoddi pob darn o waith rwy’n ei ddarllen.

Sut mae'r radd Meistr hon yn adeiladu ar eich profiadau hyd at y pwynt hwn?
Rwyf wedi rheoli practis deintyddol yn fy ngwlad enedigol. Felly hoffwn allu cyfuno'r pethau rwy'n eu dysgu yma â’m profiad blaenorol i fod yn rheolwr gofal iechyd llwyddiannus. Credaf hefyd y bydd yr wybodaeth a'r sgiliau rwy’n eu dysgu yma yn rhoi hygrededd i mi ynghyd â hyder aruthrol yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Sut mae'r radd Meistr hon yn cyd-fynd â'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol?
Roeddwn i wastad eisiau bod mewn sefyllfa reoli, felly roedd y cwrs hwn yn ddewis perffaith i mi.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn, heb os. Yn wir, rwyf eisoes wedi gwneud hyn i rai o'm cyfoedion yn ôl gartref. Mae hyn yn seiliedig ar agwedd broffesiynol a chyfeillgar y gyfadran ynghyd â seilwaith cadarn y Brifysgol. Hefyd, rhaid rhoi clod i wasanaethau cymorth myfyrwyr y brifysgol. Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol.