Cam mawr yn nhaith eich plentyn tuag at fod yn annibynnol yw penderfynu i fynd i'r Brifysgol ac er bod hwn yn amser cyffrous, rydym yn deall y gall fod yn heriol hefyd. Yn Abertawe, does dim ffordd well o ddysgu am y Brifysgol nag i chi a'ch plentyn brofi diwrnod agored drosoch chi eich hunain.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid am yr hyn i'w ddisgwyl ar ddiwrnod agored. Yn ogystal â hynny, gallwch chi ymuno â'n cymuned rhieni a gwarcheidwaid i dderbyn rhagor o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich plentyn.