Sicrhau amgylchedd campws diogel a chroesawgar

Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn hollbwysig, a dyna pam mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo'ch plentyn trwy gydol ei amser yn y brifysgol a sicrhau bod ei brofiad myfyriwr yn cael ei fwynhau i'r eithaf.

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau cymorth di-dâl i fyfyrwyr:

Bywyd Campws

O les myfyrwyr i gyngor ariannol i gymorth rhyngwladol, mae tîm BywydCampws yn cynnig cymorth i rymuso'ch plentyn i gyflawni ei botensial addysgol uchaf. Mae BywydCampws yn siop un stop sydd â’r nod o ymgysylltu â chymuned y myfyrwyr a chyfoethogi eu profiad trwy ddarparu cyngor, arweiniad a gwasanaethau cymorth cyfrinachol am ddim i bob myfyriwr gan gynnwys LHDT+, myfyrwyr Ffydd, a’r rhai sydd dan warcheidiaeth neu’n gadael gofal.

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Yn ogystal â gwasanaethau BywydCampws, mae’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol i unrhyw unigolion a allai brofi heriau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Er mwyn sicrhau bod holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael cyfleoedd dysgu cyfartal, mae'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr wedi'i greu i gynnig cyngor arbenigol, arweiniad a dewisiadau cymorth i fyfyrwyr. Mae’r gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n profi anawsterau emosiynol a phersonol, yn ogystal â materion hirdymor mwy cymhleth gan gynnwys namau synhwyraidd neu gorfforol, cyflyrau meddygol hirdymor, anawsterau dysgu penodol (SpLD), cyflyrau ar y sbectrwm awtistig (ASC) a chyflyrau iechyd meddwl. Dysgwch fwy o'r canllaw i gymorth a chefnogaeth ychwanegol.

Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd 

Bydd Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn helpu'ch plentyn i lwyddo a gwireddu ei botensial llawn yn y Brifysgol, drwy ddarparu nifer o wasanaethau cymorth dysgu ac addysgu. Os yw'ch plentyn yn trosglwyddo o'r ysgol neu'r coleg, neu'n symud ymlaen â'i astudiaethau addysg uwch, gall ein staff tra chymwys helpu i bontio'r bwlch i'r man lle mae angen iddo fod. Mae ystod o wasanaethau myfyrwyr ar gael gan gynnwys; cyrsiau, gweithdai, a thiwtorialau 1-1, wedi'u cynllunio i wella sgiliau ac adeiladu gwybodaeth mewn ystod eang o feysydd.

Undeb y Myfyrwyr 

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli anghenion a barn myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae ganddynt Swyddogion sydd wedi'u hethol o blith y myfyrwyr, pob un â rôl ddiffiniedig neu'n cynrychioli grŵp ar bwyllgorau llunio penderfyniadau'r Brifysgol, llywodraeth leol a chenedlaethol, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a llawer mwy. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys Canolfan Gyngor sy'n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i fyfyrwyr ar unrhyw bwnc. Dysgwch ragor ar wefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Diogelwch yn Abertawe 

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd dysgu a chymdeithasol diogel i'w staff a'i myfyrwyr. Mae swyddog heddlu ar y campws, a bydd Swyddog Cymorth Cymunedol newydd yr Heddlu wrth law i gynghori ar atal troseddu. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnig larymau diogelwch personol am ddim sy'n addas i'w cario mewn bag llaw, ar dorch allweddi neu eu gosod ar ffenestr neu ddrws. Edrychwch ar y dudalen Diogelwch a Safezone am ragor o wybodaeth.

Pecyn Cymorth Myfyrwyr

Fel rhiant, mae hi'n naturiol i chi boeni am eich plentyn, beth bynnag yw eu hoed! Ond yma ym Mhrifysgol Abertawe, fe allwch chi fod yn dawel eich meddwl y bydd gennynt fynediad at ystod eang o wasanaethau cefnogaeth i'w cynorthwyo nhw ym mha bynnag ffordd sydd angen. 

Defnyddiwch y dolenni isod i ddysgu rhagor am y gwasanaethau a chefnogaeth yr ydym ni'n cynnig: