Mae Prifysgol Abertawe'n darparu cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf i alluogi myfyrwyr i archwilio byd cyffrous peirianneg fiofeddygol. Gyda'n cyfleusterau, gallwch gael profiad ymarferol o'r ymchwil fiofeddygol ddiweddaraf a datblygu atebion arloesol ar gyfer heriau clinigol heddiw.
DELWEDDU A DYLUNIO
- Offer hapteg/dylunio organig
- Sganio arwynebau 3D
- Microsgopeg (gyda chamau rheoli fflworolau ac amgylcheddol)
- Uwchsain
- Dyfeisio BioDdeunyddiau (electrodroelli, meithrin celloedd)
- Argraffu 3D (FDM, SLA)
- Delweddu Cyflymder Uchel
NODWEDDU MECANYDDOL
- Cydberthynas Delweddau Digidol (DIC) (systemau stereo ar gyfer DIC lled-statig a chyflymder uchel yn ogystal â delweddu llif integredig ar gyfer mesuriadau rhyngweithio strwythur a hylif cypledig)
- Cydberthynas Cyfaint Digidol
- Profi unechelog/dwyechelog/amlechelog (gan gynnwys rheoli amgylcheddol)
- Synhwyro gwasgedd/grym/straen
CANOLFAN AR GYFER NANOIECHYD
- Ystafell lân
- Argraffu a Chaenu
- Sganiwr MR
- Labordy Peirianneg Celloedd/Meinweoedd
- Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol
SYSTEMAU LLIF
- Dolenni cardio/resbiradol ffug
- Microhylifeg
- Delweddu Gronynnau i Fesur Cyflymder (2D, 3D, tomograffeg yn ogystal â delweddu strwythurol integredig ar gyfer mesuriadau rhyngweithio strwythur a hylif cypledig)