Chemical engineering equipment

Pam dewis peirianneg gemegol yn Abertawe?

Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos gyda phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynnyrch gwerthfawr at ddefnydd pobl. Mae ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn ffordd ddiogel sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

O ysgrifennu llyfrau testun awdurdodol ar beirianneg gemegol igeisio datrys problemau prinder dŵr y byd, mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o ddarparu atebion arloesol drwy beirianneg brosesu.  

Mae ein graddau Peirianneg Gemegol yn datblygu meysydd peirianneg gemegol sefydledig mewn perthynas ag ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd, a byddwch chi'n elwa o'n cysylltiad agos â chwmnïoedd peirianneg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Acordis, Astra Zeneca, Avecia, Chemicals, GlaxoSmithKline, Nestle, Murco, Phillips 66, Unilever a Valero.

Mae peirianneg gemegol wedi gael ei achredu gan…

Logo y cyngor peirianneg
logo IChemE