- Maent yn bartneriaethau rhwng tri aelod, sef sefydliad ymchwil yng Nghymru, busnes yng Nghymru a Chynorthwy-ydd Cyswllt;
- Mae’r Cynorthwy-ydd Cyswllt yn gweithio yn y busnes er mwyn datblygu’r prosiect a’i roi ar waith Bydd prosiectau’n para rhwng 6 a 12 mis
- Dyfernir y cyllid i’r sefydliad ymchwil • Bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu 50% at y costau;
- Bydd busnesau’n cyfrannu’r 50% sy’n weddill naill ai ar ffurf arian NEU ar ffurf cyfraniadau nwyddau h.y. amser staff neu ddeunyddiau’r cwmni;
- Mae angen cymwysterau/profiad ar y Cynorthwy-ydd Cyswllt i gyd-fynd â’r gofynion o ran cyflawni’r prosiect, ac o leiaf BTEC neu Ddiploma ar Lefel 3;
- Asesir ceisiadau yn unol â’r meini prawf canlynol: Effaith, Arloesi, Her, Cydlynoldeb.
Y broses cyflwyno cais?
- Gallwch gyflwyno cais UNRHYW bryd;
- Dylai’r busnes a’r Brifysgol gyflwyno’r cais ar y cyd. Mae angen achos busnes amlwg ar gyfer y prosiect; nid mentrau ymchwil yw Partneriaethau Smart.
Pa brosiectau sy'n cael eu hariannu gan bartneriaethau Smart?
- Prosiectau cydweithredol a fydd yn gwella gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau Ymchwil a Datblygu wrth hwyluso ymlediad sgiliau technegol a busnes;
- Prosiectau a fydd yn datblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd sy’n cyd-fynd ag Arbenigo Clyfar - mae angen i fusnesau ddangos eu bod yn gallu manteisio ar ganlyniadau’r prosiect;
- Prosiectau sy’n hwyluso gwaith trosglwyddo gwybodaeth o ymchwilwyr i fusnesau i feithrin arloesedd - yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg;
- Prosiect sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).