KTP

Angen helpu gwella perfformiad neu gynhyrchu yn eich sefydliad?

Os ydych chi'n ystyried sut y gallwch chi lenwi'r capasiti coll i hybu perfformiad a chynhyrchedd yn eich sefydliad, mae mwy o arian ar gael i gefnogi Partneriaeth Smart neu Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Abertawe a allai roi mynediad ichi i'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd ei angen arnoch chi.

Mae Partneriaethau SMART a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhaglenni a ariennir yn rhannol gan y llywodraeth. Eu nod yw hybu perfformiad a chynhyrchiant sefydliadau drwy gydweithrediadau â phrifysgolion yn y DU. Maent yn bartneriaethau 3 ffordd rhwng busnes neu elusen, cynorthwy-ydd cyswllt(unigolyn sydd wedi graddio/ôl-raddedig) a phrifysgol i weithio ar brosiect penodol yn y sefydliad.

Mae Partneriaethau Smart a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhoi mynediad i chi at arbenigedd a gwybodaeth academaidd i helpu i drawsnewid eich sefydliad, datrys problemau, gwella gallu i gystadlu, cynhyrchiant a pherfformiad a thrawsnewid eich sefydliad yn y pen draw

Mae tîm ymgysylltu Prifysgol Abertawe wrth law i weithio trwy syniadau posib y Bartneriaeth Smart a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda chi felly cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y tudalennau isod neu lawrlwythwch ein  Llyfryn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Smart.

 

LINC Prifysgol Abertawe - Cyrchu Cyllid Ymchwil ac Arloesi

Ymunwch â chyrff ariannu mawr, sefydliadau ymchwil a sefydliadau eraill sydd wedi cael cyllid ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Dysgwch am y cyllid a'r gefnogaeth gynyddol sydd ar gael mewn ymateb i bandemig COVID-19. Cewch gipolwg allweddol ar wneud cais llwyddiannus, cwrdd â darpar gydweithwyr a chlywed gan academyddion a busnesau sydd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn.