• Maent yn bartneriaethau rhwng tri aelod, sef sefydliad ymchwil, busnes a Chynorthwy-ydd Cyswllt;
  • Mae’r Cynorthwy-ydd Cyswllt yn gweithio yn y busnes er mwyn datblygu’r prosiect a’i roi ar waith;
  • Fel arfer, bydd prosiect yn para 24 mis;
  • Dyfernir y cyllid i’r sefydliad ymchwil;
  • Ariennir prosiectau’n rhannol gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru;
  • Mae busnesau’n cyfrannu’r swm sy’n weddill ar ffurf ARIAN;
  • Mae angen i’r Cynorthwy-ydd Cyswllt fod yn unigolyn graddedig â chymwysterau priodol ynghyd â’r gallu i arwain prosiect busnes strategol
  • Asesir ceisiadau yn unol â’r meini prawf canlynol: Effaith, Arloesi, Her, Cydlynoldeb;
  • Ceir ychydig o ‘gystadlaethau’ bob blwyddyn pan fydd modd cyflwyno ceisiadau am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth i’w hystyried.

Pwy ddylai gyflwyno cais am MKTP?

  • Busnesau bach a chanolig mewn unrhyw sector sydd am dyfu, sy’n awyddus i feithrin a gweithredu eu strategaeth rheoli uchelgeisiol drwy gyflwyno arferion rheoli gwell;
  • Busnesau sy’n ceisio gwella cynhyrchiant yn sylweddol, gan gydnabod y gall rheolaeth ac arweinyddiaeth dda helpu i gyflawni hyn;
  • Sefydliadau sydd am wella sgiliau eu pobl a gwneud gwelliannau o ran cynhyrchiant drwy roi arferion a phrosesau arloesi sy’n arwain y diwydiant ar waith.

Beth mae MKTP yn ei gwmpasu?

  • Mae MKTP yn cwmpasu’r holl swyddogaethau busnes o farchnata i TG, creadigrwydd i reoli strategol, AD i gysylltiadau cyflogaeth, a chyllid i logisteg;

Gall y meysydd ffocws allweddol gynnwys:

  • Monitro a phennu targedau;
  • Cyfathrebu a chymhelliant;
  • Trefnu, cynllunio adnoddau a meddwl yn strategol;
  • Datrys problemau a gwneud penderfyniadau;
  • Ymwybyddiaeth fasnachol a rheoli risg;
  • Hyfforddi a mentora;
  • Gwerthuso opsiynau, sganio’r gorwel a chraffter strategolz.

Mae ein tîm ymgysylltu Prifysgol Abertawe wrth law i weithio trwy syniadau posib y Bartneriaeth Smart gyda chi felly cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Cysylltwch â'n tîm ymgysylltu â busnes