Beth yw partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth?

  • Partneriaeth rhwng tri pharti, sef sefydliad ymchwil, busnes a Cynorthwy-ydd Cyswllt (unigolyn graddedig â chymwysterau priodol);
  • Mae’r Cynorthwy-ydd Cyswllt yn gweithio yn y busnes am 12 i 36 mis er mwyn datblygu’r prosiect a’i roi ar waith;
  • Ariennir prosiectau’n rhannol gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru;
  • Mae busnesau’n cyfrannu rhwng 33% (busnesau bach a chanolig) a 50% (busnesau mawr) AC mae’n rhaid profi fforddiadwyedd;
  • Mae angen i’r Cynorthwy-ydd Cyswllt fod yn unigolyn graddedig â chymwysterau priodol ynghyd â’r gallu i arwain prosiect busnes strategol;
  • Derbynnir ceisiadau yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac fe’u hasesir ar sail: Effaith, Arloesi, Her, Cydlynoldeb.

Pwy ddylai gyflwyno cais?

Busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector sydd am gyflwyno arloesedd i'w gweithle neu i'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig er mwyn hwyluso twf wrth wreiddio sgiliau a gwybodaeth yn y gweithlu er mwyn sicrhau effaith hirdymor. 

Mae KTPau ar agor i bob busnes a sefydliad yn y trydydd sector - waeth beth fo'i faint neu ei sector.

Beth y mae KTPau yn ei gynnwys/ beth yw'r prif feysydd sy'n cael sylw?

Mae KTPau traddodiadol yn tueddu i ganolbwyntio ar arloesedd ymarferol mewn busnesau a'r trydydd sector. Mae'r tîm partneriaeth yn canolbwyntio ar oresgyn heriau strategol gan ddefnyddio ei fynediad at adnoddau a geir yn y Sylfaen Wybodaeth, sef y Brifysgol.

Mae trawsnewidiad yn digwydd trwy:

Wreiddio sgiliau arbenigol, sy'n gallu meithrin gwybodaeth newydd, ehangu gallu a meithrin diwylliant arloesi o fewn y gweithlu presennol - gan sbarduno newid yn y presennol ac yn y dyfodol.

Caiff hyn ei danategu gan fewnbwn strategol Ymgynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth hynod brofiadol, cefnogaeth ein tîm Trosglwyddo Gwybodaeth ymroddedig sy'n cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol drwy gydol cylch bywyd y prosiect a mynediad at y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Arweiniad a Gwybodaeth

Mae ein tîm ymgysylltu Prifysgol Abertawe wrth law i weithio trwy syniadau posib y Bartneriaeth Smart gyda chi felly cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.