• Maent yn bartneriaethau rhwng tri aelod, sef sefydliad ymchwil yng Nghymru, busnes yng Nghymru a Chynorthwy-ydd Cyswllt;
  • Mae’r Cynorthwy-ydd Cyswllt yn gweithio yn y busnes er mwyn datblygu’r prosiect a’i roi ar waith Bydd prosiectau’n para rhwng 6 a 12 mis
  • Dyfernir y cyllid i’r sefydliad ymchwil • Bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu 50% at y costau;
  • Bydd busnesau’n cyfrannu’r 50% sy’n weddill naill ai ar ffurf arian NEU ar ffurf cyfraniadau nwyddau h.y. amser staff neu ddeunyddiau’r cwmni;
  • Mae angen cymwysterau/profiad ar y Cynorthwy-ydd Cyswllt i gyd-fynd â’r gofynion o ran cyflawni’r prosiect, ac o leiaf BTEC neu Ddiploma ar Lefel 3;
  • Asesir ceisiadau yn unol â’r meini prawf canlynol: Effaith, Arloesi, Her, Cydlynoldeb.

Y broses cyflwyno cais?

  • Gallwch gyflwyno cais UNRHYW bryd;
  • Dylai’r busnes a’r Brifysgol gyflwyno’r cais ar y cyd. Mae angen achos busnes amlwg ar gyfer y prosiect; nid mentrau ymchwil yw Partneriaethau Smart.

Pa brosiectau sy'n cael eu hariannu gan bartneriaethau Smart? 

  • Prosiectau cydweithredol a fydd yn gwella gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau Ymchwil a Datblygu wrth hwyluso ymlediad sgiliau technegol a busnes;
  • Prosiectau a fydd yn datblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd sy’n cyd-fynd ag Arbenigo Clyfar - mae angen i fusnesau ddangos eu bod yn gallu manteisio ar ganlyniadau’r prosiect;
  • Prosiectau sy’n hwyluso gwaith trosglwyddo gwybodaeth o ymchwilwyr i fusnesau i feithrin arloesedd - yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg;
  • Prosiect sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).

Gwybodaeth ddefnyddiol

Arweiniad a Gwybodaeth

Mae ein tîm ymgysylltu Prifysgol Abertawe wrth law i weithio trwy syniadau posib y Bartneriaeth Smart gyda chi felly cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.