Seminarau Ymchwil: Grwp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB)
Panel ar Straeon Tylwyth Teg, Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023
Panel ar Straeon Tylwth Teg, Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023, Union House, Swansea University
Bydd Sarah Gamble yn trafod straeon tylwyth teg mewn perthynas ag un o'u haddaswyr cyfoes enwocaf: Angela Carter. Ym 1976, cyhoeddodd Carter ei chyfieithiad ei hun o straeon tylwyth teg Charles Perrault, a dilynwyd hyn ym 1979 gan y casgliad o straeon byrion, The Bloody Chamber, ei dehongliadau personol hi o'r testunau traddodiadol hyn. Bydd Sarah yn trafod syniadau Carter am bwysigrwydd straeon tylwyth teg, a sut y gwnaeth leoli ei hun yn fwriadol fel un ddolen mewn cadwyn barhaus o drosglwyddo straeon.
Mae Daniel Mitchell yn ystyried sut, wrth i iaith, crefydd a chymunedau newid, mae llên gwerin a straeon tylwyth teg Cymru mewn perygl o gael eu colli. Oes ffordd o’u hadfywio?
Mae Julie-Ann Rees yn archwilio straeon tylwyth teg fel meddyginiaeth i'r meddwl, drwy archwilio'r strwythur a'r strategaethau adrodd a ddefnyddir. Gan ganolbwyntio ar archdeipiau Jungaidd, yn enwedig y twyllwr a'r cysgod, mae Julie-Ann yn archwilio'r syniadau hyn mewn perthynas â diwylliant Ewrop a Japan, yn ogystal â mewn perthynas â’i gwaith ei hun.
Mae Ramyani Gayen yn trafod modelau myth a ffantasi nad ydynt yn Ewropeaidd, mewn ffuglen ffan a diwylliant poblogaidd.
Panel ar Autoffuglen, Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023
Panel ar Autoffuglen, Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023, Union House, Swansea University
Siaradwr gwadd: Mae Liam Harrison (Prifysgol Gorllewin Lloegr) yn ystyried cwestiynau awtoffuglen ar waith. Gan fwrw golwg ar ystod o ysgrifenwyr cyfoes o Brydain ac Iwerddon, gan gynnwys Rachel Cusk, Rob Doyle a Claire-Louise Bennett, bydd Liam yn ystyried sut mae natur lithrig awtoffuglen yn galluogi ysgrifenwyr i archwilio cyflwyniadau gwasgarog o hunaniaeth.
Mae Jan Wigley yn archwilio pwnc parhad – neu hyd yn oed bodolaeth – atgofion o blentyndod, ac yn gofyn a yw atgofion yn bresennol yn y corff a'r synhwyrau hyd yn oed cyn i fecanweithiau cof ieithyddol fodoli. Mae prosiect ei PhD yn archwilio sut mae atgofion o'i bywyd cynnar iawn yn Irac wedi dylanwadu ar ei bywyd a'i gwaith ysgrifennu.
Mae Gilly Adams wedi addysgu ‘Ysgrifennu'r Hunan’ yn yr Adran Ysgrifennu Creadigol ers blynyddoedd lawer, ac yma mae'n myfyrio ar yr heriau a'r gwobrwyon sy'n deillio o ymgysylltiad dychmygus â hunangofiant a chofiant.
After Rilke, Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022
After Rilke
Prof Christopher Norris (Athro Emeritws, Prifysgol Caerdydd)
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022 am 1pm
Yn y sgwrs hon, bydd Chris yn darllen ac yn trafod cerddi o'i gasgliad After Rilke: renderings, parodies, rejoinders and animadversions. Maen nhw'n seiliedig ar New Poems (1907-08) gan Rilke sy'n cwmpasu llawer o genres ac yn adlewyrchu doniau rhyfeddol y bardd sef dyfeisgarwch, dyfnder, rhoi sylw agos, a phŵer traethiadol. Mae Chris yn dadlau'r achos dros gyfieithu fel mater o ymateb yn greadigol i elfennau o'r gwreiddiol y gallent fod yn galw am ymgysylltu'n weithredol â chymeriad archwiliol, adolygiadol, anghydsyniol neu weithiau'n barodïaidd. Mae'n gobeithio bod yr effaith yn heriol ac yn gallu dod â bywyd newydd i destunau sydd yn aml wedi mynd yn flin oherwydd bod yn rhy gyfarwydd â nhw.
Mae Chris Norris yn Athro Emeritws mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ble dysgodd Llenyddiaeth Saesneg tan 1991 ac wedyn newidiodd i ddysgu Athroniaeth hyd at ei ymddeoliad pedwar blynedd yn ôl. Fel awdur, mae Chris wedi ysgrifennu dros drideg o lyfrau academaidd ar destunau fel athroniaeth, llenyddiaeth, hanes syniadau, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth. Ei brif ddiddordebau ydy barddoniaeth a beirniadaeth William Epsom ac ysgrifeniadau Jacques Derrida, yn ogystal â thestunau fel athroniaeth iaith, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.
Mae Chris hefyd wedi cyhoeddi deuddeg o gasgliadau barddoniaeth hyd yn hyn. Mae ei adnodau gwleidyddol yn ymddangos yn gyson ar y safon Culture Matters a’i farddoniaeth athronyddol yn y cylchgrawn ar-lein The Wednesday. Cafwyd ‘Aerogel’; ‘a quintain’ ei gyhoeddi yn rhif Medi 2022 o Scientific American.
Panel ar Ysgrifennu Cwiar, Dydd Mercher 2 Tachwedd 2022
Panel ar Ysgrifennu Cwiar
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2022 am 1pm
Bydd y siaradwr gwadd Nat Reeve (nofelydd ac ymgeisydd PhD, Royal Holloway) yn myfyrio ar y ffyrdd mae hunaniaeth gwiar wedi llywio eu hymarfer beirniadol a chreadigol, o’u ffuglen Neo-Fictoraidd cwiar i’w ‘dehongliad cwiar’ o waith Elizabeth Siddal.
Bydd yr Athro Kirsti Bohata yn trafod ei chasgliad o straeon byrion a gyd-olygwyd ganddi, Queer Square Mile.
Bydd Dr Roberta Magnani yn trafod yr Amasoniaid, y canoloesoedd a’r modern a bydd yn myfyrio ar sut mae damcaniaeth cwiar, yn enwedig damcaniaeth trans, yn hwyluso dialog gynhyrchiol, cyffyrddiad cwiar rhwng y gorffennol a’r presennol.
Panel ar Addasiadau, Dydd Mercher, 4 Mai 2022
Panel ar Addasiadau
Dydd Mercher 4 Mai 2022 am 1pm
Bydd yr Athro Julian Preece yn siarad am addasu gwaith Heinrich Böll ar gyfer cyfres Clasuron y BFI gan gyfeirio at y ffilm The Lost Honour of Katharina Blum (Margarethe von Trotta/Volker Schlöndorff, 1975).
Bydd yr Athro David Britton yn trafod ei addasiad ar gyfer BBC Radio o waith Mikhail Bulgakov, The White Guard, sy’n adrodd hanes Kyiv ym 1922 pan fu Wcráin ar ganol rhyfel cartref a oedd yn cynnwys Byddin Goch Folsiefaidd Rwsia, lluoedd goresgynnol yr Almaen, cenedlaetholwyr Wcreinaidd a’r lluoedd a oedd yn dal yn deyrngar i’r ymerodraeth Tsaraidd.
Bydd Dr Alexia Bowler yn ystyried addasiad Jane Campion o’r nofel gan Thomas Savage a gyhoeddwyd ym 1967, The Power of the Dog. Bydd Alexia’n trafod y cyfarwyddwr Campion fel addasydd ac auteur (ffeministaidd), yn ogystal â’r anawsterau o ran cysoni’r categorïau hyn, y gellir dadlau eu bod ar wahân, ym maes sinema menywod a chyfarwyddwyr benywaidd unigol.
Bydd Seren Walters yn siarad am addasiadau Disney o straeon poblogaidd, yn benodol y broses o’u gwneud yn debyg i gynyrchiadau Disney, ac yna sut mae’r fersiynau ‘Americanaidd’ hyn yn cael eu cyfieithu i Ffrangeg neu Almaeneg, sef diwylliannau gwreiddiol eu ffynonellau weithiau.
Arswyd a’r Tabŵ, Dydd Mercher 9 Chwefror 2022
Arswyd a’r Tabŵ
Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 am 1pm
A yw’r genre arswyd yn ideolegol geidwadol, yn yr ystyr ei fod yn plismona’r gwahaniaeth rhwng y normal a’r angenfilaidd? Neu, a yw’n dramgwyddus yn yr ystyr ei fod yn herio ac yn gwyrdroi, mewn modd hunanymwybodol, safbwyntiau moesegol a dderbynnir? Bydd awduron ac ysgolheigion ffuglen gothig yn myfyrio ar sut mae’r tensiwn beirniadol sy’n rhan annatod o’r genre yn llywio eu profiad o’r anhraethadwy neu’r unheimlich.
Bydd Dr Sarah Gamble yn siarad am rym gwarth a ffieidd-dod.
Bydd myfyriwr PhD Vicky Brewster yn trafod adfywiad arswyd yn yr 21ain Ganrif a’r ffactorau diwylliannol sy’n sail i hyn.
Bydd myfyriwr PhD ac awdur y casgliad o straeon byrion Human Beings, Rachael Llewellyn yn archwilio ffrwydrad yr arswydus ymhlith y cyfarwydd a’r beunyddiol.
Bydd yr ysgrifennwr arswyd a myfyriwr PhD Ray Cluely yn archwilio syniad yr angenfilaidd fel trosiad mewn ffuglen arswyd.
Ffuglen Hanesyddol, Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021
Ffuglen Hanesyddol
Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 am 1pm
Mae Dr Mel Kohlke yn myfyrio ar lenyddiaeth Neo-Fictoraidd fel is-faes amlwg mewn ffuglen hanesyddol, o'i safbwynt fel damcaniaethwr a sylfaenydd y cyfnodolyn Neo-Victorian Studies.
Mae Tamzin Whelan (PhD,Ysgrifennu Creadigol) yn trafod cywirdeb ffeithiau mewn ffuglen hanesyddol.
Mae Sue Dickson (PhD, Ysgrifennu Creadigol) yn trafod y ffyrdd y mae ffuglen yn cyfrannu at y cofnod hanesyddol, gan archwilio materion astrus cywirdeb a diffuantrwydd.
Mae Dr Elaine Canning (Cyfarwyddwr y Sefydliad Diwylliannol) yn myfyrio ar ail-greu storïau neu hanes mewn ffuglen hanesyddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyfranogiad Gwyddelod yn Rhyfel Cartref Sbaen.
Mae Dr Anne Lauppe-Dunbar yn trafod ysgrifennu nofel gyffrous hanesyddol, a sut gall ffuglen hanesyddol gysylltu â mathau neu ddulliau eraill o ysgrifennu.
Climate Crisis and Science Fiction, Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021
Climate Crisis and Science Fiction
Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021 am 1pm
Mae Dr Chris Pak yn gofyn pa gyfleoedd creadigol a beirniadol y mae llenyddiaeth yn eu cynnig ar gyfer meddwl am newid yn yr hinsawdd, ac a yw dychmygu bydoedd dychmygol a dyfodol pan fydd yr hinsawdd yn ein rhannu yn ein helpu i archwilio senarios cynaliadwy posib.
Mae Owen Bridge yn trafod sut mae ffuglen wyddonol yn archwilio darluniadau o ddeallusrwydd ac ymwybyddiaeth artiffisial, ac yn ystyried canfyddiadau am effaith amgylcheddol yn yr oes ddigidol.
Mae Olivia Rix-Taylor yn siarad am ffuglen ac ‘ymyl ffiseg’: sut mae dealltwriaeth o ffiseg ddamcaniaethol yn herio syniadau traddodiadol am realaeth?
Mae Suzanne Rösner yn archwilio technolegau arloesol presennol ym maes argyfwng newid yn yr hinsawdd, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu bwyd a thai, ac yn gwerthuso posibilrwydd llwybrau optimistaidd yn y dyfodol.
‘Critic!’ The contemporary role of the literary critic and creative writer, Dydd Mercher 13 Hydref 2021
'Critic!' The contemporary role of the literary critic and creative writer
Dydd Mercher 13 Hydref 2021 am 1pm
- Cyflwyniad gan Alan Bilton, cyd-drefnydd y CCPRG.
- Richard Robinson, cyd-drefnydd y CCPRG yn trafod y beirniad drwgdybus a therfynau beirniadaeth.
- Francesca Rhydderch yn trafod sut mae awduron yn ymateb i feirniadaeth lenyddol.
- Sarah Tanburn, myfyriwr PhD.
- Trafodaeth cynulleidfa am y cwestiynau.
Bydd Alan yn cyflwyno cyfarfod cyntaf y CCPRG. Byddwn yn trafod y berthynas rhwng creadigrwydd a beirniadaeth lenyddol sydd wedi ysbrydoli sefydlu'r ganolfan hon. I ba raddau y mae’r un yn llesteirio neu'n ysbrydoli'r llall? Ydy'r berthynas yn gynhyrchiol neu'n wrthwynebol? Pa mor ddefnyddiol yw ymarfer beirniadol i awdur neu ymarfer creadigol i feirniad?
Mae Vladimir ac Estragon yn difyrru eu hunain yn cyfnewid sarhadau yn nrama Samuel Beckett, Waiting for Godot: ceremonious ape, punctilious pig, moron, vermin, sewer-rat. Ond y sarhad terfynol a buddugoliaethus yw 'crritic'. Bydd Richard yn dechrau drwy drafod heriau, megis un Rita Felski, i'r model deongliadol o feirniadaeth sydd wedi cael ei dderbyn gyhyd. Cyfeirir at hyn yn aml fel 'hermeniwteg drwgdybiaeth' (Paul Ricoeur), a dylanwadwyd arno gan bwyslais ar agwedd isymwybodol y testun. Roedd darlleniadau deongliadol o'r fath yn ymdrin â'r hyn nad yw'r testun yn ei ddweud, ei fylchau, ei holltau, ei achludiadau a'r enghreifftiau o dawelwch arwyddocaol ynddo: yn gryno, ei symptomau. Yn hytrach na gofyn 'beth yw gwir ystyr y testun hwn?', roedd beirniadaeth ddrwgdybus yn gofyn 'sut cafodd y testun hwn ei greu?', roedd yn ceisio daduno - neu hyd yn oed 'ddadadeiladu' - yr undod esthetig y gall testun honni fod ganddo. Ond gofynnwn a oes ffordd fwy atgyweiriol o ddarllen, i ddefnyddio term Eve Kosovsky. Allwn ddychmygu ymarfer beirniadol nad yw'n ddrwgdybus ac nad yw'n cael ei dwyllo unwaith eto gan y testun?
Bydd y drafodaeth bwrdd crwn yn esgor ar ragor o gwestiynau y gellir gwahodd y gynulleidfa i'w hateb:
- Creadigrwydd a beirniadaeth lenyddol: ydy'r un yn llesteirio neu'n ysbrydoli'r llall? Ydy'r berthynas yn gynhyrchiol neu'n wrthwynebol? I ba raddau mae ymwybyddiaeth o ddamcaniaeth feirniadol o gymorth neu'n llesteirio? Oes enghreifftiau o ysgrifenwyr-beirniaid llwyddiannus?
- Ydych chi’n ddarllenydd drwgdybus? Beth yw manteision ac anfanteision diagnosio symptomau ideolegol testunau, neu beidio â bod yn ddigon drwgdybus?
- Pryd rydych chi wedi teimlo bod drwgdybiaeth yn rhinwedd sy'n gwella deallusrwydd a phryd mae'n llesteirio eich ymateb beirniadol ac affeithiol i lenyddiaeth ac iaith?
- Sut gallwn osgoi ysgrifennu beirniadol sych, a sut rydym yn dychmygu ein darllenydd? Pa mor ddefnyddiol yw ymarfer beirniadol i awdur?