Mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis graddedigion i’w cyflogi, felly bydd cael profiad a datblygu sgiliau tra byddwch yn y brifysgol yn rhoi mantais gystadleuol i chi.
O brofiad gwaith â thâl i gyngor gyrfaoedd arbenigol, yma yn Abertawe mae gennym gyfoeth o gyfleoedd ac adnoddau i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.