Mae roboteg ddeallus yn addo chwyldroi sectorau amrywiol, yn enwedig drwy roboteg gynorthwyol ddeallus, roboteg amaethyddol, roboteg byd agored a roboteg chwilio ac achub glyfar. Gall robotiaid cynorthwyol deallus wella ansawdd bywyd unigolion yn sylweddol, gan gynnwys yr henoed a phobl sydd ag anableddau, drwy ddarparu cymorth personol a diogel gyda thasgau pob dydd gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial uwch a thechnegau golwg cyfrifiaduron. Mae roboteg amaethyddol yn defnyddio technolegau tebyg i wella arferion ffermio clyfar. Gall y robotiaid hyn ymdrin â thasgau sy'n gofyn am lawer o waith yn awtonomaidd, monitro iechyd cnydau ac optimeiddio defnyddio adnoddau a thrwy hynny gynyddu cynhyrchiant a hyrwyddo cynaliadwyedd.
Mae roboteg byd agored yn canolbwyntio ar greu robotiaid sy'n gweithio'n effeithiol mewn amgylcheddau heb strwythur a deinamig. Drwy integreiddio systemau synhwyro soffistigedig, dysgu peirianyddol ac algorithmau addasol, gall y robotiaid hyn berfformio tasgau megis monitro amgylcheddol, archwilio a llywio mewn tiroedd cymhleth gyda lefel uchel o ymreolaeth a dibynadwyedd.
Mae roboteg chwilio ac achub glyfar yn canolbwyntio ar ddefnyddio systemau awtonomaidd uwch i leoli a chynorthwyo unigolion yn effeithiol yn ystod argyfyngau a thrychinebau. Gan ddefnyddio systemau synhwyro o'r radd flaenaf, dysgu peirianyddol a thechnolegau cyfathrebu, gall y robotiaid hyn lywio amgylcheddau peryglus, dod o hyd i oroeswyr a darparu cymorth hanfodol mewn amser go iawn. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dronau ar gyfer asesiadau o'r awyr, robotiaid ar lawr ar gyfer mynd i leoedd cul a thimau cydweithredol o robotiaid ar gyfer ymdrin ag ardaloedd mawr yn drylwyr.
Mae'r Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe'n ymroddedig i gydweithredu â'r byd gofal iechyd, y diwydiant a phartneriaid amaethyddol i ddatblygu'r atebion hyn sy'n seiliedig ar roboteg ddeallus a'u rhoi ar waith. Drwy ddatblygu technolegau mewn roboteg gynorthwyol ddeallus, roboteg amaethyddol, roboteg byd agored a roboteg chwilio ac achub glyfar, ein nod yw hyrwyddo arloesedd a chreu newid cadarnhaol yn y gymdeithas.
I gloi, gall yr effaith a allai ddeillio o integreiddio technolegau uwch megis mecatroneg, systemau wedi'u mewnblannu, dysgu peirianyddol, prosesu iaith naturiol, rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid ac ymagweddau golwg cyfrifiaduron arloesol i roboteg ddeallus wella bywydau unigolion yn sylweddol, gwella arferion amaethyddol ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chynyddu effeithiolrwydd a diogelwch gweithrediadau chwilio ac achub yn sylweddol. Mae'r gwaith yn y Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus ym Mhrifysgol Abertawe'n dangos sut gall ymchwil a chydweithrediad penodol ar draws sectorau amrywiol harneisio pŵer trawsnewidiol roboteg ddeallus.
Mae'r grŵp Roboteg Ddeallus yn canolbwyntio ar sut gall roboteg chwyldroi sectorau amrywiol, yn benodol drwy roboteg gynorthwyol ddeallus, roboteg amaethyddol, roboteg byd agored a roboteg chwilio ac achub glyfar.