Mae rhoddion er cof yn ffordd wych o gofio rhywun a oedd yn agos atoch a chofio ei fywyd. Weithiau, mae'r teulu a'r ffrindiau yn hoffi cael y dewis o roddi i elusen mewn angladd neu wasanaeth coffa, yn lle blodau angladd efallai, ac rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb sy'n dewis cefnogi'r Brifysgol yn y ffordd hon.
Gall trefnwyr angladd drefnu rhodd fel hon, ac yna byddant yn anfon eich rhoddion caredig i'r Brifysgol. Fel arall, os byddai'n well gennych drefnu'r casgliad eich hun, gallwch anfon siec atom yn uniongyrchol i’r cyfeiriad canlynol:
At sylw Datblygu ac Ymgysylltu
Abaty Singleton
Prifysgol Abertawe
SA2 8PP
Byddem yn ddiolchgar pe tasech yn peidio ag anfon arian parod drwy'r post. Os hoffech chi gyfeirio eich rhodd at brosiect penodol, a wnewch chi roi gwybod i ni mewn llythyr wedi'i amgáu â'r siec. Hefyd, hoffem ysgrifennu'n ôl atoch a diolch i chi am y rhodd arbennig hon, felly byddem yn ddiolchgar pe gallech gynnwys eich cyfeiriad.