Creu diwylliant o ragoriaeth academaidd y tu hwnt i'r canmlwyddiant
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i ddarparu mynediad at ein haddysgu a'n cyfleusterau o safon fyd-eang i'n hunigolion disgleiriaf, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Dyfernir ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n dangos rhagoriaeth academaidd pan gânt eu derbyn i’r Brifysgol. Gyda’ch cymorth chi, ein nod yw codi digon o arian i roi mwy o ysgoloriaethau academaidd i bobl ifanc haeddiannol a disglair.
Diolch i chi am rannu’n gweledigaeth.
MA mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol
Graddiodd Cheryl Havard, sy’n 35 oed ac yn fam i dri phlentyn, gyda Gradd BA Dosbarth Cyntaf yn y Dyniaethau o’r Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO) yn 2016. A hithau wedi cael profiad mor gadarnhaol gyda’i Gradd Israddedig, anogwyd Cheryl i barhau â’i haddysg gan ymgymryd â Gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol.
“Gyda 3 o blant, roedd hi’n anodd iawn cynilo digon o arian. Cyflwynais gais am Ysgoloriaeth Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a chefais fy synnu pan gefais hi, mae wedi bod yn gymorth aruthrol!"