Dealltwriaeth o werth a grym trawsnewidiol addysg
Ganwyd Eira Francis Davies ar 17 Mawrth 1925 i'w rhieni, Annie a David Davies, yng Nglyn-nedd, De Cymru. Gadawodd Eira Gymru pan oedd yn oedolyn ifanc i weithio ar gyfer SOSBW (The Society for The Overseas Settlement of British Women) yn Llundain fel Swyddog Lles Plant. Cafodd SOSBW ei chreu ym 1919 fel rhan o addasiadau llywodraeth Prydain i'r economi ar ôl y rhyfel i helpu gweithwyr benywaidd i fudo i gyn-drefedigaethau cyfanheddwyr gwyn. Teithiodd i Ganada ym mis Medi 1955 ac ar ôl dychwelyd i Brydain ym 1956, ymgartrefodd unwaith eto yn ei thref enedigol fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymdeithasol Gorllewin Morgannwg.
Roedd Eira'n deall gwerth a phŵer trawsnewidiol addysg, yn enwedig i fenywod o wledydd y gallai eu cefndir economaidd, cymdeithasol a diwylliannol beri heriau a rhwystrau iddynt o ran gwireddu eu potensial. Fel menyw ag incwm annibynnol, yn 2012 cyflwynodd Eira gronfa sylweddol i Brifysgol Abertawe i sefydlu ysgoloriaeth yn ei henw. Ei diben oedd helpu menywod o'r fath i wireddu eu potensial, ac wrth wneud hynny hybu eu cymuned a'u gwlad enedigol.
Roedd gan Eira ddiddordeb brwd yn y menywod roedd ei hysgoloriaeth yn eu noddi. Roedd yn dilyn eu cynnydd a'u straeon ac yn mwynhau cwrdd â hwy yng Nghinio Blynyddol Enillwyr yr Ysgoloriaeth. Serch hynny, roedd yn well ganddi guddio pwy oedd hi ac ni ddatgelodd erioed mai hi oedd eu noddwr.
Bu farw Eira Francis Davies ar 9 Medi 2020, yn 95 oed. Mae Prifysgol Abertawe'n falch o barhau i gefnogi Ysgoloriaeth Eira Francis Davies fel teyrnged i etifeddiaeth a gweledigaeth eithriadol Eira.