Llyfrgell y Brifysgol - Y Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol.

Mae'r llyfrgell ar Gampws Singleton, a adeiladwyd yn 1937, wedi bod wrth wraidd bywyd myfyrwyr ers 1937. Wrth i nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol gynyddu, arweiniodd hyn at y syniad o gael llyfrgell ar y campws. Nid oedd yr hen lyfrgell yn Abaty Singleton yn addas bellach, ac roedd angen cartref newydd ar y myfyrwyr a'r academyddion a oedd yn dod i'r amlwg. Erbyn hyn, Adain y Dwyrain yw'r llyfrgell a grëwyd ym 1937, ac mae'n rhan o adeilad llyfrgell a gwybodaeth mawr a ddyluniwyd ym 1963.

Drwy gydol ei hanes, mae'r Brifysgol wedi esblygu gan addasu i anghenion myfyrwyr ac academyddion. Heddiw, mae lleoedd gweithio a rennir a phodiau ar gyfer trafodaethau grŵp yn rhan o'r llyfrgell. Mae lle agored yn cael ei werthfawrogi'n fwy; nid yw dod o hyd i gorneli tywyll, llychlyd mor hawdd erbyn hyn, ac mewn rhai ardaloedd, nid oes llawer o lyfrau yno.

Ond beth sydd nesaf...sut rydym yn dychmygu llyfrgell ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr. Sut bydd y lle'n edrych a sut y caiff ei ddefnyddio. Mae adnoddau ar-lein yn llawer mwy cyffredin; a oes hyd yn oed angen llyfrau arnom?

Ymunwch â ni yn Llundain ar gyfer ein digwyddiad rhwydweithio blynyddol i gyn-fyfyrwyr lle byddwn yn rhannu atgofion ac yn ystyried y dyfodol sydd o'n blaenau. Cynhelir digwyddiad eleni yn Royal Society, 6-9 Carlton House Terrace, London, SW1Y 5AG.