Cyn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, buom yn siarad â chyn-fyfyriwr Abertawe, David Smith, enillydd medal aur Boccia sy'n cystadlu yn ei 4ydd Gemau Paralympaidd.
Beth mae'n ei olygu i chi gael eich dewis ar gyfer eich pedwerydd gemau Paralympaidd?
Mae'n golygu llawer. Nid yw llawer o bobl yn llwyddo i gael 15 mlynedd ar frig unrhyw yrfa yn enwedig ar fy oedran i, felly rwy'n teimlo'n ffodus iawn.
Rydych chi wedi cyflawni cymaint yn eich gyrfa hyd yn hyn. Sut byddai amddiffyn eich teitl Paralympaidd yn Tokyo yn cymharu â’r cyflawniadau hynny?
Y Gemau Paralympaidd yw pinacl fy nghamp ac mae cael y cyfle i greu hanes yn rhywbeth cyffrous iawn. Byddai amddiffyn fy nheitl Paralympaidd yn bendant ar y brig!
I'r rhai hynny nad ydynt yn gwybod llawer am Boccia, allwch chi ddweud ychydig wrthym am y gamp?
Gêm sy'n debyg i fowls yw Boccia ar gyfer pobl ag anableddau corfforol difrifol i gael cyfle i gystadlu mewn chwaraeon elît. Mae gennym lawer o adnoddau a gwybodaeth ar-lein felly ewch ati i chwilio am “boccia”. Mae llawer o glybiau'n chwarae ar draws y DU gan gynnwys yn Abertawe.
Gwnaethoch raddio o Brifysgol Abertawe yn 2014 gyda gradd mewn Peirianneg Awyrofod. Beth yw rhai o'ch hoff atgofion o'r Brifysgol?
Mae gennyf lawer o atgofion da o Brifysgol Abertawe. Roedd yn lle mor gynhwysol i mi pan ddechreuais i yn 2008. Roedd y radd yn anodd ond yn bleserus ac roedd y staff yn gymwynasgar iawn. Mae'n anodd nodi fy hoff atgofion, ond roedd Varsity a hedfan yn uchafbwyntiau i mi. Yr unig beth rwy’n difaru amdano yw peidio â chwarae Boccia yn erbyn Caerdydd!
Sut roeddech chi'n cydbwyso astudiaethau yn y Brifysgol wrth gystadlu'n rhyngwladol?
Cymerodd ychydig amser i mi gael y cydbwysedd cywir ac ar y dechrau roedd fy ngradd yn cael mwy o flaenoriaeth nes i Lundain 2012 gyrraedd!
Yn 2017, cawsoch eich anrhydeddu gydag MBE am eich cyflawniadau. Sut deimlad oedd mynd i'r palas i'w gasglu?
Roedd hi'n wych cael mynd i'r palas eto ond y tro hwn roedd yn felysach gan fod fy rhieni wedi dod gyda mi. Roedd hwnnw'n ddiwrnod balch i'r teulu.
Beth fyddai eich cyngor i unrhyw athletwr ifanc sydd ag uchelgeisiau i fynd i'r Gemau Olympaidd neu Baralympaidd?
Os ydych chi'n credu y gallwch chi fod yn ddigon da, yna gwnewch yr hyn sydd angen ac achubwch ar y cyfle.