Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i’r actores a chyn-fyfyrwraig raddedig o Brifysgol Abertawe, Annabelle Apsion.
Cyflwynwyd y wobr i Ms Apsion ar Ragfyr 18, 2019, yn seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Cafodd Ms Apsion ei geni yn Llundain, ei haddysgu yn Guilford ac Oakham, a mynd i goleg chweched dosbarth yn Godalming, Surrey. Ceisiodd ddod o hyd i le gogleddol a diwydiannol mewn cyferbyniad â'r ardal geidwadol yn Surrey lle’r oedd yn byw, ond fe ddaeth i Brifysgol Abertawe, a thyfodd i'w charu, gan ddisgrifio Abertawe fel 'lle i iacháu go iawn'.
Ar ôl gollwng Rwsieg, gadawodd am gyfnod i astudio coreograffi yn Middlesex ond dychwelodd yn fuan i Abertawe, gan raddio mewn Saesneg a Drama. Yn ystod ei hamser yma, cyfarfu â ffrind gydol oes, Catherine Carnie, a gyfarwyddodd berfformiadau cynnar Annabelle ac aeth gyda hi, ar ôl graddio, i gyfarwyddo’i pherfformiadau llwyfan yng Nghaeredin.
Cychwynnodd ei gyrfa gyda’r rolau teitl mewn cynyrchiadau ar gyfer Shared Theatre Group, megis y Bacchae, the Heartbreak House, ac Anna Karenina. Perfformiodd yn nrama Richard III yn yr RSC yn Stratford upon Avon a gyfarwyddwyd gan Sam Mendes, a Chekhov the Seagull yn yr Old Vic, Bryste.
Yn 1996, serennodd yn Hillsborough, y ddrama bwerus am drychineb Hillsborough pan gollodd 96 o gefnogwyr pêl-droed eu bywydau.