Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth?
Roeddwn i'n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr.
Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe?
Cael fy nysgu gan ddarlithwyr cwbl ragorol, y ffrindiau a wnes i yn y brifysgol a'r llu o weithgareddau chwaraeon y gwnes i gymryd rhan ynddynt.
"Ni (Yr Athro Hywel Teifi Edwards)welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a 'dysgwyr ail iaith'."
Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe?
Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a “dysgwyr ail iaith”. A dyna lle y cafodd fy hyder ei feithrin.
Pam dewis gyrfa mewn darlledu?
I fod yn berffaith onest, dyna'r unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i'n arfer chwarae recordiau Queen, ABBA a 10cc pan oeddwn i'n ddim ond pum mlwydd oed, felly roedd yn anochel y byddwn yn mynd i weithio i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales! Roeddwn i hefyd yn arfer sylwebu ar gemau fideo ‘nôl yn yr 1980au - gemau fideo chwaraeon - felly mae'n debyg nad oedd gyrfa mewn chwaraeon teledu yn gam annisgwyl chwaith.
"Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw."
A wnaeth eich cyfnod yn y Brifysgol eich helpu i gychwyn gyrfa mor llwyddiannus mewn darlledu ydych chi’n meddwl?
Yn sicr. Fe wnes i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd, Mr Hugh Jones, pan oeddwn yn ymgeisio am gwrs ysgol newyddiaduraeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe anogodd fi i fynd amdani. Enillais ysgoloriaeth gyda BBC Cymru ac mae'r gweddill yn hanes. Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw.
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa (hyd yma!)?
Heb amheuaeth, derbyn yr e-bost gan fy nghynhyrchydd i ddweud fy mod i'n mynd i fod yn rhan o'r tîm cyflwyno ochr y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil rhwng yr Ariannin a'r Almaen.
Pwy yw’r person mwyaf diddorol i chi gwrdd â nhw a pham? / Who has been the most interesting person you’ve met and why?
Mae’n rhaid i fi ddweud Al Pacino. Gwnes i ei gyfarfod yn 2008 wrth weithio ar ddarllediad un o ornestau Joe Calzaghe yn Las Vegas. Rwy wrth fy modd gyda ffilmiau ac mae cael ‘high five’ a braich rownd fy ysgwydd gan y chwedlonol Mr Al Pacino yn uchafbwynt gyrfa.
Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad?
Rwsia. Teithiais ledled y wlad yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2018 a chefais fy hudo yn llwyr gan yr hanes, y bensaernïaeth ysblennydd a'r bwyd arbennig.
"Rwyf wedi bod mor ffodus fy mod wedi cael fy mendithio drwy gael athrawon, darlithwyr a chynhyrchwyr gwych sydd wedi fy helpu...Yn y pen draw, mae fy ffydd wedi rhoi’r grym a’r gallu i fi i lwyddo."
Pwy wnaeth eich ysbrydoli chi - pan oeddech chi’n iau ac yn ystod eich gyrfa?
Rwyf wedi bod mor ffodus fy mod wedi cael fy mendithio drwy gael athrawon, darlithwyr a chynhyrchwyr gwych sydd wedi fy helpu, ond trwy gydol fy ngyrfa, fy ysbrydoliaeth yw fy arwr chwaraeon Muhammad Ali. Mae ei ddyfyniad sy’n dweud bod ‘“angen cael y ddawn A’R ewyllys” ar fy wal ac rwy’n edrych arno bob dydd. Yn y pen draw, mae fy ffydd wedi rhoi’r grym a’r gallu i fi i lwyddo.