Martin Coles
Astudiodd Martin Coles ym Mhrifysgol Abertawe a graddiodd â BSc (Anrh.) mewn Biocemeg ym mis Mehefin 1977. Bu'n gweithio i Procter a Gamble mewn rolau gweithredol yn Efrog Newydd a Cincinnati cyn ymuno â Pepsico yn Chicago ym 1987. Bu'n gweithio i Nike, bu'n Is-lywydd Gweithredol Reebok International Ltd ac yn Llywydd Rhyngwladol Starbucks. Cafodd ei benodi'n llywydd ac yn brif swyddog gweithredol HaloSource ym mis Hydref 2011. Bu hefyd yn aelod o Fyrddau Cyngor ar Addysg Rhyngwladol nid er elw Ysgol Fusnes Prifysgol Washington yn Bothell ac ym Mhrifysgol Seattle, lle bu hefyd yn gymrawd o Ysgol Fusnes Albers.
Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, meddai Mr Coles: "Rwyf wrth fy modd yn cael fy nghydnabod fel hyn ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr anrhydedd aruthrol hwn sy'n cael ei roi i mi ac sydd mor annisgwyl. Mae ansawdd yr addysg a'r gofal a'r sylw dderbyniais i a'm cymheiriaid ym Mhrifysgol Abertawe'n dyst i safon y sefydliad hwn. Mae llawer iawn o feddylwyr mawr wedi camu od drwy ddrysau Prifysgol Abertawe, ac rwy'n ddiolchgar iawn am fod yn rhan fechan o'i hanes cyfoethog.”