Ayo Mairo-Ese
BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Dosbarth 2009

Ayo Mairo-Ese: Llais Angerddol dros y Gwir a Newid

C: Beth yw eich hoff agwedd ar fod yn angor newyddion ar Arise TV a chyd-gadeirydd sioe'r bore?

Yn gyntaf, y cyfle i weithio gyda thîm gwych. Mae hyn yn bwysig iawn i mi am fy mod i'n treulio rhan sylweddol o’m hamser yn y gwaith. Mae'n bwysig gallu gweithio gyda thîm sy'n frwdfrydig. Yn ogystal â chydweithio â nhw, rwyf hefyd yn dysgu llawer ganddyn nhw ac yn dysgu wrth wneud y swydd a chael fy herio. Maen nhw'n ddeallus, felly maen nhw'n fy nghadw ar flaen fy nhraed. Mae hynny'n fy annog i wneud yn well bob dydd a phob amser gwneud fy ngorau. Rwyf hefyd yn mwynhau'r ffaith bod gennyf blatfform i addysgu pobl a rhannu gwybodaeth â nhw. Rwy'n meddwl ei bod hi'n fraint fawr gallu rhoi cyfle i leisiau'r cyhoedd gael eu clywed, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed neu'r rhai na fydden nhw wedi cael cyfle i leisio eu barn fel arall. Dyna pam rwy'n cysylltu lawer yn y cyfryngau cymdeithasol â phobl rwyf heb gwrdd â nhw o'r blaen - er mwyn gwrando ar eu hanghenion a'u pryderon, ceisio deall sut maen nhw'n teimlo, beth yw eu barn, pa bynciau hoffen nhw eu codi gyda'r rhai mewn awdurdod, ac yn olaf, mae'n gyfle i wneud y llywodraeth yn Nigeria yn atebol a gwneud rhywfaint i gyfrannu’n gadarnhaol at ddemocratiaeth gryf yn Nigeria. Dyma rai o'r pethau rwy'n ddiolchgar iawn amdanynt.

C: Pa rôl sydd gan y cyfryngau wrth sbarduno trafodaethau a dylanwadu ar gymdeithas a diwylliant?

Ym fy marn i, mae'r cyfryngau'n chwarae rôl hollbwysig wrth lywio trafodaethau a dylanwadu ar gymdeithas a diwylliant, yn enwedig yn Nigeria lle mae'r cyfansoddiad yn cydnabod y cyfryngau fel y pedwerydd pŵer yn y wlad. Mae'n arf pwerus iawn ar gyfer newid. Mae ymateb enfawr y gynulleidfa rydyn ni'n darlledu iddi bob dydd yn profi hyn. Mae gwir ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn ein cymdeithas. Ar gyfer democratiaeth gymharol ifanc fel Nigeria, mae'r bobl yn gweld hyn fel cyfle i deimlo bod rhywun ar eu hochr, i gael llais a sedd wrth y bwrdd. Mae'r cyfryngau wedi newid polisïau yn y gorffennol. Rydyn ni wedi gweld bod y cyfryngau'n sbarduno newid go iawn. Hefyd, mae'r cyfryngau'n cynnig platfform i amlygu materion allweddol, gan dynnu sylw atyn nhw. Gallwn ni sicrhau bod sylw'n cael ei hoelio ar faterion penodol nes bod newidiadau'n cael eu gwneud. Rwy'n meddwl bod y gallu i ddylanwadu er gwell ar ddiwylliant a pholisïau drwy ein newyddiaduraeth yn un o rolau pwysicaf y cyfryngau yn ein cymdeithas a'n diwylliant.

C: Allwch chi ymhelaethu ychydig ar eich defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol? Sut mae hynny'n dylanwadu ar eich rhaglennu a'ch cynnwys?

Mae'r cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau traddodiadol yn ategu ei gilydd. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn un o'n ffyrdd mwyaf effeithiol o feithrin cysylltiadau go iawn â phobl a'u clywed. Er enghraifft, ar X gallwn i ofyn cwestiwn ynghylch pwnc llosg i gael barn pobl. Ar hyn o bryd, mae Nigeria (yn debyg i lawer o rannau o'r byd) yn wynebu argyfwng costau byw. Gallwn i ofyn cwestiynau fel: "Beth yw cost torth o fara yn eich ardal chi?" neu "Ydych chi wedi gallu mynd i'r ysgol heddiw?" Wedyn gallaf ddefnyddio'r ymatebion yn ystod sesiynau trafod ar y teledu. Mae'n rhaid i mi wneud pwynt yma - er bod tystiolaeth anecdotaidd yn dda am ddarparu gwybodaeth, mae'n hanfodol ei hategu â data empirig er mwyn cywirdeb a hygrededd. Fodd bynnag, mae'n rhoi gwybodaeth o lygad y ffynnon sy'n gallu bod yn gatalydd ar gyfer ymchwil bellach i fater penodol. Ar ben hynny rydyn ni hefyd yn cael adroddiadau/fideos llygad-dyst o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn taleithiau eraill ledled y wlad drwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai pobl nad ydyn nhw am roi'r wybodaeth ar eu tudalen bersonol, yn cysylltu â mi drwy neges breifat er mwyn rhoi'r recordiad i mi.

C: Rydych chi wedi cyfweld â nifer mawr o ffigurau deallusol. Wrth roi platfform iddyn nhw gael eu clywed, ydych chi'n teimlo cyfrifoldeb am helpu i sicrhau cydbwysedd yn y cyfweliad?

Ydw. Mewn gwirionedd, rwy'n teimlo cyfrifoldeb enfawr. Cyn i mi gyfweld â ffigur dylanwadol - ag unrhyw un a bod yn deg - bydda i'n gwneud ymchwil helaeth. Mae'r cyfrifoldeb gennyf i i wneud ymchwil fanwl, i allu gwirio cywirdeb honiadau neu ddatganiadau sy’n cael eu gwneud gan ffigurau dylanwadol.  Rydyn ni wedi cyfweld â ffigurau dylanwadol fel Llywodraethwyr Taleithiau neu swyddogion penodol y mae rhai ohonyn nhw'n gwneud honiadau nad ydynt yn ffeithiol nac yn gywir. Ar sail ein hymchwil ein hunain, gallwn ni herio eu honiadau. Credaf fod gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo'r gwirionedd i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae pobl yn ymddiried ynom oherwydd eu bod yn credu byddwn ni'n dweud y gwir wrthyn nhw. Felly, ydw, rwy'n meddwl ei fod yn gyfrifoldeb enfawr o'm rhan i, ac rwy'n ceisio sicrhau cymaint â phosib ein bod wedi paratoi'n ddigonol o ran gwirio ffeithiau.

C: Rydych chi'n angerddol iawn am ysbrydoli menywod. Ydych chi'n dechrau gweld newid mewn cymdeithas o ran canfyddiadau am fenywod?

Wel, nid i'r graddau hoffwn i os ydw i'n onest. Mae gwaith i'w wneud o hyd. Yn fy rôl fel Angor ar The Morning Show, rwy'n teimlo cyfrifoldeb i siarad dros fenywod, hyd yn oed pan nad yw hynny'n boblogaidd iawn. Er enghraifft, yn ystod ei ymgyrch i gael ei ethol yn Arlywydd, ymrwymodd Arlywydd presennol Nigeria, Arlywydd Bola Tinubu, y byddai 35% o'i lywodraeth yn fenywod. Rwy'n achub ar bob cyfle i wirio faint o gynnydd mae wedi'i wneud gyda'i addewid a, lle bo angen, yn tynnu sylw at fethiannau i'w gyflawni. Rydyn ni'n byw mewn cymdeithas batriarchaidd. Mae newid yn anodd, ac weithiau bydda i'n gofyn i fy hun a ydw i'n gwneud cyfraniad o bwys at newid diwylliannol, ond yna rwy'n cofio bod hynny'n rhan o'r rheswm pam rwyf yma. Rhan o'r rheswm pam mae'r platfform hwn gennyf yw rhoi'n ôl ac ysgogi newid cadarnhaol. Roeddwn i wedi siarad am dynnu sylw at leisiau pobl sy'n agored i niwed a'r angen i sicrhau bod cynrychiolaeth ddigonol o fenywod ym mhob agwedd ar ein cymdeithas. Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y nod eto. Mae angen i ni wneud mwy o hyd i amddiffyn menywod. Mae gennym gyfreithiau o hyd sy'n gwahaniaethu yn erbyn menywod, mae ysgytwadau economaidd yn dal i effeithio mewn modd anghymesur ar fenywod. A bod yn deg, mae pethau wedi gwella rywfaint, ond mae angen gwneud llawer mwy o hyd.

C: Allech chi ddweud rhagor wrthym am y mentrau cymeroch chi ran ynddynt i rymuso menywod?

Yn fy mywyd proffesiynol a phersonol, rwy'n weithgar iawn mewn llawer o fentrau a gweithgareddau sy'n cefnogi menywod.Y llynedd, cyd-sefydlais i fenter gymdeithasol o'r enw SpeakHer i alluogi menywod i feithrin sgiliau cyfathrebu a siarad yn gyhoeddus effeithiol. Roedden ni wedi cydnabod bod syniadau gwych gan lawer o fenywod ond nad oedd ganddynt y sgiliau i gyfleu'r syniadau hynny'n effeithiol er mwyn ysgogi'r newid roedden nhw'n ei ddymuno. Mae SpeakHer yn darparu hyfforddiant a chymorth i wella eu gallu i gyfathrebu a dylanwadu ar eraill. Cafodd ein cynhadledd gyntaf y llynedd gefnogaeth aruthrol ac adborth cadarnhaol, gan danlinellu pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu yn y byd sydd ohoni.

Yn ogystal, rwy'n ymgyrchydd angerddol yn erbyn trais rhywiol ac wedi bod yn llysgennad ar gyfer mentrau sy'n brwydro yn erbyn trais rhywiol yn Nigeria. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda rhaglen SheVentures. Roedd hyn yn fenter gan sefydliad preifat i hyrwyddo menywod mewn busnes. Roeddwn i'n gallu eu helpu gyda sgiliau meddal. Y tu hwnt i'r mentrau ffurfiol hyn, rwy'n mentora menywod yn breifat a thrwy raglenni sefydledig. Mae fy ymrwymiad i gefnogi menywod yn ymestyn i achlysuron siarad yn gyhoeddus lle bydda i'n rhannu fy nealltwriaeth a'm profiadau i ysbrydoli a grymuso eraill.

Yn olaf, ryw'n gyd-sefydlydd grŵp menywod sy'n seiliedig ar ffydd. Mae'r grŵp hwn yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol megis trais domestig, heriau priodasol a darparu cymorth lles. Gyda thros 800 o aelodau, mae'r Praying Women's Circle (PWC) yn cynnig cymuned gefnogol lle gall menywod ddod o hyd i gysur, arweiniad a maeth ysbrydol.

Mae fy ffydd yn dylanwadu'n sylweddol ar fy ngwerthoedd ac mae'n llywio fy ymdrechion i wella sefyllfa menywod a'u grymuso mewn agweddau amrywiol ar eu bywydau.

C: Wnaeth eich amser yn Abertawe a'ch profiad o ddiwylliant y Deyrnas Unedig ddylanwadu ar eich ymagwedd at eich rôl fel angor newyddion ar y teledu?

Yn Nigeria mae parch at ffigurau mewn awdurdod yn rhan o'r diwylliant ac mae hyn yn aml yn rhwystro pobl rhag cwestiynu arweinwyr neu eu gwneud yn atebol. Fodd bynnag, yn y Deyrnas Unedig, ces i flas ar ddiwylliant o atebolrwydd, lle roedd disgwyl i arweinwyr gyfiawnhau eu gweithredoedd a'u penderfyniadau i'r cyhoedd.

Roeddwn i'n aelod weithgar o'r NUS (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr) a ches i fy ethol yn Swyddog Myfyrwyr Duon. Yn y rôl hon, cyfrannais i at gynadleddau a sesiynau lle byddai arweinwyr, gan gynnwys Llywyddion yr NUS, yn wynebu cwestiynau a mesurau atebolrwydd trylwyr. Amlygodd y profiad hwn bwysigrwydd bod yn dryloyw ac yn ymatebol wrth lywodraethu, rhywbeth nad oedd yn gyffredin yn Nigeria ar y pryd.

Un o'm hoff raglenni teledu i'w gwylio ar y pryd oedd Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i'n meddwl "Waw, mae hyn yn ddiddorol. Mae'n gyffrous. Mae'n gwneud democratiaeth yn ddiddorol." Yn anffodus, dyw hyn ddim yn wir yn Nigeria eto, ond gam wrth gam, rydyn ni'n gobeithio creu democratiaeth lle mae'r arweinwyr yn hollol atebol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.

C: Sut rydych chi'n gobeithio cyfrannu at greu newid cadarnhaol yn y byd drwy eich gwaith?

Wel, i mi, byddai hynny drwy ddweud y gwir yn gyson. Rhoi platfform i leisiau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy'n credu bod dylanwadu ar y person nesaf atoch chi yn un o'r effeithiau mwyaf pwerus gallwch chi eu cael ac mae hynny wedyn yn creu effaith grychdonni. Felly, os ydych chi'n helpu i roi llais i rywun, neu rydych chi'n helpu rhywun i ddod o hyd i'w lais, gall y person hwnnw wneud yr un peth a bydd yr effaith yn ymledu i eraill. Mae'n bwysig hefyd oherwydd bod y byd wedi troi'n bentref byd-eang, yn enwedig gyda chyrhaeddiad y cyfryngau cymdeithasol. Mae gallu dweud pethau a mynegi'ch barn yn ysbrydoli eraill. Mae llawer o ferched ifanc, a dynion ifanc erbyn hyn, yn anfon negeseuon ataf yn dweud sut rwyf wedi'u hysbrydoli. Mae hynny i mi yn cyfoethogi fy mywyd. Pan fydd rhywun yn penderfynu bod llais ganddi neu'n penderfynu codi ei llais neu wneud rhywbeth oherwydd ei bod wedi fy ngweld i yn gwneud yr un peth, mae hynny'n fendith.

Y peth pwysig arall, wrth gwrs, yw llywodraethu da. Rydyn ni'n siarad lawer am lywodraethu gwael yng nghyd-destun Affrica, nid yn unig yn Nigeria - a bod yn deg mae arweinyddiaeth wael i’w chael mewn rhannau eraill o'r byd - ond rydyn ni'n siarad amdano, yn tynnu sylw ato, rydyn ni'n ei feirniadu ac yn trafod ffyrdd o'i newid. Mae gallu cyfrannu at ddatblygiad Nigeria yn rhywbeth mawr i mi. Rwy'n angerddol iawn am Nigeria. Rwy'n caru fy ngwlad. Rwy'n caru Nigeria, ond byddwn i wir yn hoffi gweld Nigeria'n tyfu ac yn cyflawni ei photensial llawn. Mae gennym gymaint o botensial. Rwy'n meddwl y gallwn ni fod yn genedl fawr. Felly, mae'r gallu i ddylanwadu ar y drafodaeth honno'n gyfrifoldeb mawr. Ac os yw Nigeria yn gallu chwarae ei rôl, yna byddai'r effaith grychdonni ledled Affrica yn fawr.

C: Dywedwch wrthym am eich cyfnod yn Abertawe

Rwyf wrth fy modd yn siarad am Brifysgol Abertawe. Rwy'n dweud hyn achos bod unrhyw un sy'n fy adnabod i’n gwybod fy mod i'n siarad o hyd am Brifysgol Abertawe! Rwy'n gwneud hyn oherwydd ei bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Rwy'n meddwl fy mod i wedi treulio rhai o flynyddoedd gorau fy mywyd yno ac mae pethau a weithiodd yn wirioneddol dda i mi yno. Yn gyntaf, byw yn y gymuned ei hun - mae pobl Abertawe'n bobl wych. Roedden nhw'n gyfeillgar iawn, yn groesawgar iawn. Nesaf, roedd y Brifysgol ei hun a fy adran i, pawb yng Nghyfadran y Dyniaethau, yn anhygoel. Rwy'n cofio Dr Alan Finlayson, Dr Rebecca Brown ac aelodau eraill o'r Gyfadran a wnaeth ddysgu ym Mhrifysgol Abertawe'n ystyrlon iawn. Gwnaethon nhw fy helpu fel myfyriwr, a fydda i byth yn anghofio hynny.

Tyfais i hefyd fel actifydd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe drwy fod yn weithredol yn Undeb y Myfyrwyr a chael cyfle i deithio i rannau gwahanol o'r Deyrnas Unedig. Roedd hi'n fraint cynrychioli lleisiau myfyrwyr du ac o leiafrifoedd ethnig ar draws y Deyrnas Unedig ac yn gyfle i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol. Rwy'n meddwl ei fod yn sefydliad gwych, a dyna pam rwy'n weithredol yng ngrŵp y cyn-fyfyrwyr yn Nigeria, a chymaint ag y gallaf rwy'n annog pobl i fynd i Brifysgol Abertawe! Mae'n dref wych i fyw ynddi ac mae'r Brifysgol ei hun yn groesawgar iawn. Roedd y darlithwyr yn agos atoch ac ar gael i helpu; datblygais i lawer o'r sgiliau rwy'n eu defnyddio yn fy mywyd proffesiynol a phersonol yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae lle arbennig yn fy nghalon i fy amser ym Mhrifysgol Abertawe, oherwydd y cafodd ddylanwad dwfn arnaf a rhoddodd i mi rai o flynyddoedd gorau fy mywyd. Un o'r agweddau mwyaf amlwg oedd cymuned gynnes a chroesawgar Abertawe ei hun. Roedd y bobl yn hynod gyfeillgar a chroesawgar, a wnaeth fy mhrofiad o fyw yno’n bleser go iawn.