Croeso cynnes i'r rhifyn hwn o SAIL, ein cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr.

Ers i Brifysgol Abertawe gael ei sefydlu ym 1920, mae arwyddair ein Prifysgol, ('Gweddw crefft heb ei dawn') wedi crynhoi ein hymrwymiad parhaus i'r celfyddydau a'r gwyddorau. Heddiw, rydym yn falch o hyrwyddo a dathlu traddodiad diwylliannol cyfoethog ein sefydliad, ein rhanbarth a Chymru, ac i roi sylw i'r dreftadaeth barhaus hon yn y rhifyn hwn.

Mae Prifysgol Abertawe wrth wraidd arlwy diwylliannol ein rhanbarth.  Eleni, rydym yn dathlu 40 o flynyddoedd ers i ni agor Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar Gampws Parc Singleton, sydd, drwy ei rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd, wedi ysbrydoli cenedlaethau o'n myfyrwyr, yn ogystal â darparu lle croesawgar i'n cymuned ehangach. Mae'r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae hefyd yn ganolbwynt gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol ac mae rhai o'n casgliadau hirsefydlog, gan gynnwys Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton, yn cynnwys gwledd o adnoddau sy'n taflu goleuni ar hanes unigryw a diwylliant cyfoethog Cymru a'i dinasyddion. 

Ein nod hefyd yw dathlu treftadaeth ddiwylliannol dinas Abertawe a'n rhanbarth ehangach ar y llwyfan byd-eang. Fel prifysgol a sefydlwyd yn nhref enedigol Dylan Thomas, mae'n bleser mawr gennym ddathlu ei gyfraniad pwysig at y celfyddydau bob blwyddyn drwy Wobr Dylan Thomas  Prifysgol Abertawe, un o’r gwobrau llenyddol uchaf eu parch yn y byd i lenorion ifanc ledled y byd.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o'n cymuned amrywiol a rhyngwladol o fyfyrwyr a staff, ac rydym yn croesawu ac yn annog y cyfleoedd sylweddol ar gyfer cyfnewid diwylliannol sy’n cyd-fynd â hyn. Rydym yn falch o hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru i holl aelodau ein cymuned, y mae llawer ohonynt yn frwdfrydig i ddysgu mwy am ein cenedl a'i hanes.  Yn ogystal â'n cymdeithasau myfyrwyr niferus, rydym yn falch o hyrwyddo statws y Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio'r iaith drwy ein Hacademi Hywel Teifi, sy'n annog myfyrwyr o bob oedran a chefndir addysgol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol i ddysgu Cymraeg neu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Mae'n bleser mawr gennym fod cynifer o'n cyn-fyfyrwyr yn parhau â'r dreftadaeth hirsefydlog hon drwy wneud cyfraniad mor bwerus at y celfyddydau a diwylliant, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r cipolwg hwn ar y rhai sy'n goleuo'r byd â’u hymdrechion creadigol, o ganu opera o fri rhyngwladol i newyddiaduraeth arobryn.

Rydym yn cydnabod cyfraniadau llawer o'n cyn-fyfyrwyr, ar draws pob maes yn ein cymdeithas, ac edrychwn ymlaen at gynnwys llawer mwy o'ch cyflawniadau yn rhifynnau'r dyfodol o'r cylchgrawn hwn. 

Cofion gorau,

Yr Athro Paul Boyle
Is-ganghellor