Mae Jon Doyle, a raddiodd o Abertawe â PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2019, yn sgwrsio â phedwar awdur arall a raddiodd o'n prifysgol, gan drafod eu gwaith, yr hyn sy'n eu hysbrydoli a'u cysylltiadau â Phrifysgol Abertawe. Mae Jon yn awdur ei hun. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn Short Fiction, The Rumpus, Hobart, Ploughshares ar-lein, Full Stop a 3:AM Magazine ymhlith eraill. Mae Jon hefyd yn helpu i gynnal Clwb Llyfrau'r Cyn-fyfyrwyr. Os ydych chi'n mwynhau gwrando ar y podlediadau hyn, beth am ymuno â'r sgwrs yng ngrŵp y Clwb Llyfrau yn swanseauniconnect.com

Clwb Llyfrau
Dr Carole

Dr Carole Hailey

Dr Carole Hailey (PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, 2020). Cyhoeddir nofel Carole, The Silence Project gan Atlantic Books a chafodd ei ddewis yn un o'r teitlau ar gyfer Book Club ar Radio 2.

Joanna Mazurkiewicz

BA Astudiaethau Americanaidd, 2011. Joanna ar restr Bestselling Authors USA Today. Wedi ysgrifennu mwy nag 80 o lyfrau, mae Joanna yn fwyaf adnabyddus am ei chyfres o lyfrau Whispers a Love and Hate.

Joanna Mazurkiewicz
James Norbury

James Norbury

Mae James Norbury (BSc mewn Sŵoleg, 1999) wedi bod yn ysgrifennu ac yn darlunio am y rhan fwyaf o'i fywyd. Mae'n fwyaf adnabyddus am Big Panda & Tiny Dragon a The Cat Who Taught Zen.

Dr Samuel Peralta

Mae Dr Samuel Peralta, (PhD mewn Ffiseg, 1987) yn fwyaf adnabyddus ym myd cyhoeddi fel bardd, ysgrifennwr straeon byrion a chrëwr yr antholegau Future Chronicles. Mae hefyd yn anfon gwaith celf i'r gofod.

Dr Sameul Peralta