Renxiao (Richard) Zhang. Cyfreithiwr a Gweithredwr Cwmni Theatr
LLM, Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol
Dosbarth 2015

Ces i fy ngeni i deulu lle'r oedd awyrgylch gwych o'r celfyddydau a diwylliant. Mae fy rhieni wedi gweithredu cwmni theatr a chanddo enw da ac sy'n eiddo i'r teulu ers dros 30 o flynyddoedd. Felly, roeddwn i'n gyfarwydd â chynyrchiadau theatraidd amrywiol o oedran ifanc. Fodd bynnag, yn ystod fy amser yn yr ysgol, tyfodd fy niddordeb yn y gyfraith. Ar ôl i mi raddio o ECUPL (un o ysgolion y gyfraith gorau Tsieina), ces i waith gyda chwmni cyfreithiol a oedd yn ymdrin ag achosion morwrol. Roeddwn i'n ansicr am lwybr fy ngyrfa. Mae proffesiwn y gyfraith yn gofyn am agwedd resymegol, ond mae'r celfyddydau'n gofyn am deimladrwydd ac ysbrydoliaeth. Roeddwn i mewn cyfyng-gyngor: parhau i weithio fel cyfreithiwr neu reoli busnes fy nheulu. Ar y pryd, awgrymodd fy rhieni y dylwn i geisio addysg bellach ac ystyried posibiliadau yn y Deyrnas Unedig.

Drwy astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ces i gyfle i gyfuno gwybodaeth gyfreithiol â datblygu gyrfa. Yn ogystal â meithrin y sgiliau i adolygu telerau contract, ces i syniadau newydd am ehangu busnes ein teulu hefyd. Cyn i mi fynd i'r Deyrnas Unedig, roedd ein theatr yn llwyfannu dramâu gan awduron Tsieineaidd yn bennaf. Cyflwynodd yr Athro Andrew Beale OBE gysyniad platfformau arloesi agored a masnachu eiddo deallusol i ni ar y cwrs cyfraith eiddo deallusol. Ces i fy ysbrydoli i gysylltu â phlatfform masnachu trwyddedau hawlfraint rhyngwladol, lle ces i drwyddedau i greu fersiynau Tsieinëeg o fwy nag 20 cynhyrchiad gorllewinol rhagorol. Roedd y rhain yn cynnwys The Mousetrap ac A Murder is Announced gan Agatha Christie, The Halloween Game, Perfect Crime (y ddrama sydd wedi cael ei pherfformio am y cyfnod hwyaf yn Ninas Efrog Newydd) a dramâu ditectif adnabyddus eraill o'r West End ac Off-Broadway. 

Wedi eu hysbrydoli gan lwyddiant ein cwmni, dechreuodd theatrau eraill yn Tsieina gyflwyno dramâu a sioeau cerdd o'r West End. Roedd y cynulleidfaoedd wedi'u denu gan ddramâu o'r Deyrnas Unedig a gwnaethant hyd yn oed deithio i Lundain i weld y fersiynau gwreiddiol. Gan ystyried ansicrwydd yr unfed ganrif ar hugain, mae cyd-werthfawrogiad, dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng gwahanol ddiwylliannau yn fwy gwerthfawr na diemwntau. Yn ôl dihareb Tsieinëeg, "mae taith mil o filltiroedd yn dechrau ag un cam". Ers astudio yn Abertawe, rwyf wedi bod yn cyfrannu at gyfathrebu diwylliannol rhwng Tsieina a'r Deyrnas Unedig ar lefel ymarferol.

Mae'r dramâu gorllewinol wedi bod yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd yn Tsieina. A dweud y gwir, mae gan Tsieina gymuned fawr o bobl sy'n frwd am ddramâu ditectif. Yn ôl ym 1999, sefydlodd rhai selogion Agatha Christie yn Tsieina 'Hafan Tsieineaidd Agatha Christie' er mwyn trafod ei nofelau a'i dramâu. Er ein bod wedi archwilio amrywiaeth o themâu dramatig, dramâu dirgelwch y West End sy'n apelio fwyaf at ein cynulleidfaoedd o hyd. 

Mae'r rhan fwyaf o gynyrchiadau theatr neilltuol wedi’u gwreiddio’n ddwfn yng nghefndir diwylliannol gwlad enedigol eu hawduron. Serch hynny, mae eu themâu yn aml yn taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd o wahanol ddiwylliannau ac yn cael eu deall yn hawdd ganddynt. Mae gan waith Shakespeare a Tang Xianzu, er enghraifft, apêl gyson ar gyfer cynulleidfaoedd Prydeinig a Tsieineaidd fel ei gilydd. Mae gan y dyfnder athronyddol a'r harddwch sy’n rhan annatod o waith yr awduron hyn werth tragwyddol ac atyniad byd-eang sy'n croesi ffiniau daearyddol. Maen nhw'n cynrychioli cyfuniad o'r clasurol a'r modern, y cenedlaethol a'r byd-eang, gan bortreadu'r profiad dynol mewn ffordd sy'n benodol yn ddiwylliannol ond yn ddealladwy'n fyd-eang.

Mousetrap

Yr her bennaf wrth fewnforio cynyrchiadau theatr tramor yw cyfieithu'r sgript i iaith darged mewn modd sy'n cael ei dderbyn a'i ddeall yn hawdd gan y gynulleidfa ond sydd hefyd yn adlewyrchu bwriad yr awdur gwreiddiol. Dywedodd y cyfieithydd Tsieinëeg o fri, Mr Yan Fu, y dylai cyfieithiad gyflawni cywirdeb, eglurder a cheinder. Mae'r meini prawf hyn, er eu bod yn ymddangos yn syml, yn gofyn am ddealltwriaeth ddwys o gefndir diwylliannol gwlad yr iaith wreiddiol ac o wlad yr iaith darged.

Fodd bynnag, mae llwyfannu cynyrchiadau trawsddiwylliannol yn cynnig cyfleoedd. Gall gweithio gydag artistiaid o ddiwylliannau gwahanol ddarparu safbwyntiau newydd ar adrodd stori a pherfformiad, a gall cynhyrchiad sy'n apelio at nifer o ddiwylliannau gyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol.

Mae rhannu profiadau diwylliannol yn helpu pobl i ddeall eraill yn well. Wrth astudio yn y Deyrnas Unedig, byddwn i'n rhannu fy mhrofiadau yn aml drwy'r cyfryngau cymdeithasol (We-chat) ac yn cymryd rhan yng ngweithgareddau cyn-fyfyrwyr Tsieineaidd Prifysgol Abertawe. Ar ôl i ni ddychwelyd i Tsieina, rydyn ni'n cwrdd yn rheolaidd i rannu straeon o ddiddordeb yn y Deyrnas Unedig ac i gyfnewid cyfleoedd datblygu gyrfa. Hyd yn oed os yw'r dyfodol yn llawn heriau a rhwystrau, bydd atgofion melys o astudio yn y Deyrnas Unedig yn goleuo eich llwybr fel Seren y Pegwn. Rwyf bob amser yn awgrymu y dylai fy ffrindiau iau ystyried astudio yn y Deyrnas Unedig os ydyn nhw am brofi diwylliant gwahanol, ac rwy'n cynnig cyngor i'w helpu gyda hyn ac ar y ffyrdd gorau o ddod o hyd i gyfleoedd am interniaeth.

Yr hyn sy'n gwneud Prifysgol Abertawe'n arbennig yw ei lleoliad yng Nghymru. Cyn i mi ddod i Abertawe, nid oedd Cymru ond yn derm daearyddol mewn llyfrau i mi, ond wrth i mi ddod i adnabod y wlad hon, des i i werthfawrogi atyniadau unigryw Cymru; mae ganddi iaith annibynnol, tîm pêl-droed ardderchog, hanes mor hen ag Ewrop gyfandirol, mynyddoedd ac arfordir godidog a barddoniaeth Dylan Thomas. Roeddwn i'n gweithio yn Llundain yn ystod Euro 2016, ac roeddwn i'n falch iawn bod Cymru yn y rowndiau gogynderfynol. Ar ôl i mi ddychwelyd i Tsieina, ymunais i â Chlwb Cefnogwyr Tîm Pêl-droed Cymru gyda fy nghyd-fyfyrwyr. Diolch i'n hymdrechion, mae fy ffrindiau yn Tsieina bellach yn dod i adnabod a charu tîm pêl-droed Cymru ac maen nhw hyd yn oed yn dysgu Cymraeg.