Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r modiwl hwn yn eich cefnogi chi, fel gweithiwr cymdeithasol cymwys, i gamu'n hyderus i rôl addysgwr ymarfer; rhywun sy'n chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.
Drwy gydol y modiwl, byddwch yn archwilio sut olwg sydd ar addysg ymarfer effeithiol mewn lleoliadau go iawn: o gynllunio cyfleoedd dysgu ystyrlon a rhoi adborth adeiladol, i asesu gallu, rheoli heriau a hyrwyddo gwerthoedd proffesiynol.
Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno drwy gyfuniad o weithgareddau ar y campws ac ar-lein, megis gwaith grŵp, tasgau dysgu dan gyfarwyddyd a sesiynau tiwtorial ar gyfer aseiniadau.
Mae'r modiwl yn cynnig 35 awr o addysgu cyswllt ffurfiol, gyda'r amser astudio annibynnol yn dod â'r cyfanswm hyd at tua 300 awr. Cefnogir yr addysgu gan o leiaf 80 niwrnod ar leoliad, lle byddwch yn asesu ymarfer myfyriwr gweithiwr cymdeithasol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniad traddodiadol, yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth. Mae asesiadau amgen hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd â gofynion penodol.
Os yw'n briodol, mae croeso i ymgeiswyr archwilio cyfleoedd ar gyfer mentora yn y Gymraeg drwy eu cyflogwr, a byddant hefyd yn gallu cyflwyno eu hasesiadau yn Gymraeg. Mae awdurdodau lleol unigol yn cynnig diwrnodau astudio a gweithdai ychwanegol; Cysylltwch â'ch tîm dysgu a datblygu perthnasol i gael manylion.