O’r Oesoedd Canol i’r oes fodern – sut mae menywod yn parhau i herio canfyddiadau o harddwch.
Mae gwaith ymchwil gan Dr Laura Kalas o Brifysgol Abertawe yn dangos tebygrwydd rhwng yr Oesoedd Canol a’r oes fodern, gan ymchwilio i safonau harddwch menywod a sut mae menywod wedi herio’r canfyddiadau hyn ar hyd yr oesoedd.
Heddiw, mae ein canfyddiadau o harddwch yn drwm dan ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu. Yn aml, mesurir llwyddiant yn ôl golwg gorfforol ac, wrth i ni heneiddio, cawn ein targedu fwyfwy gan negeseuon i’n perswadio i ‘newid’ pwy ydym trwy golli pwysau, cynhyrchion gwrth-rychau ac yn y blaen. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos delfrydau harddwch i ni’n gyson i’w hefelychu.
Trwy ei gwaith ymchwil, mae Dr Laura Kalas, sy’n Uwch-ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol ym Mhrifysgol Abertawe, yn archwilio tebygrwydd â’r Oesoedd Canol, lle’r oedd harddwch benywaidd yn cael ei ddiffinio gan gymdeithas hefyd a’i ddefnyddio i gamfanteisio ac arfogi – yn erbyn menywod, ond hefyd ganddynt.
Yn ôl Dr Kalas: “Trwy astudio llenyddiaeth, gallwn ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o fenywod sydd wedi herio canfyddiadau diwylliannol.
Er enghraifft, yn y 9fed ganrif, pan oresgynnwyd mynachlog Santes Ebbe yn Coldingham gan y Llychlynwyr, torrodd Ebbe a’i lleianod eu trwynau i ffwrdd i gadw ymosodwyr Llychlynnaidd posibl draw. Yn ôl chwedl Santes Wilgefortis o’r 15fed ganrif, mae Wilgefortis mor chwyrn yn erbyn priodi brenin paganaidd fel ei bod hi’n gweddïo am anffurfiad – wedi hynny mae hi’n tyfu mwstas a barf ac yn llwyddo i wrthyrru’r brenin.
Er hynny, mae’r menywod hyn yn cael eu lladd ac yn dod yn ferthyron. Ond iddyn nhw, mae eu harddwch mewnol – harddwch eu heneidiau – yn bwysicach na’u harddwch allanol.”
Heddiw, mae ‘duwiau’ modern llawdriniaeth gosmetig yn helpu cleientiaid i gyfateb eu golwg allanol i’w cyflyrau mewnol er mwyn cyflawni eu canfyddiadau personol o harddwch.
"Roedd menywod yn yr Oesoedd Canol, fel heddiw, yn ddarostyngedig i safonau harddwch llym a oedd yn aml yn groes i’w gilydd. Roeddwn eisiau archwilio’r ffyrdd y mae llwyddiant menywod yn aml yn cael ei fesur yn ôl eu hallanoldeb, a’r ffyrdd y mae menywod ar hyd hanes wedi defnyddio dulliau eithaf treisgar weithiau o wrthsefyll y categorïau y’u gosodir ynddynt, a’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu”, meddai Dr Kalas.
Trafodwyd ‘Arfogi Harddwch’, sgwrs gan Dr Kalas, mewn pennod o’r rhaglen ‘The Idea’ ar BBC Radio Wales.