woman presenting at panel

Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Menywod drwy gydol mis Mawrth, trefnodd Adran Hanes Prifysgol Abertawe banel, gan ystyried cyfres o wrthrychau sy'n taflu goleuni ar hunaniaethau a phrofiadau menywod yn y gorffennol.Gwnaeth hwn hefyd ganolbwyntio ar sut mae menywod wedi cael eu portreadu a'u cynrychioli'n hanesyddol.

Gan ddefnyddio'r themâu ehangach ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod eleni, sef 'Ysbrydoli Cynhwysiant' a 'Menywod sy'n Eirioli dros Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant', yn ôl eu trefn, dewisodd academyddion wrthrych penodol i helpu i amlygu pwysigrwydd canolbwyntio ar gyfraniadau menywod at hanes.

Nod y digwyddiad oedd cynyddu amlygrwydd menywod drwy gydol hanes ynghyd â dathlu academyddion sy'n fenywod ac ymchwil sy'n seiliedig ar rywedd ar draws Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron Prifysgol Abertawe.

Roedd rhai o'r arteffactau a ddetholwyd i helpu i lywio trafodaethau'n cynnwys Caputi Hydria, sef fâs Athenaidd sy'n cynnwys yr unig ddelwedd y gwyddom amdani am fenyw sy'n paentio fâs, carreg fasalt drionglog sy'n cynrychioli'r dduwies Aphrodite, a sbardunodd ddadl ynghylch safonau harddwch benywaidd a cherflun o weithwyr tunplat benywaidd a oedd yn helpu'r panel i fyfyrio ar rôl menywod yn y diwydiant dur.

Roedd y panel yn cynnwys academyddion benywaidd yn yr Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron: Maria Pretzler, Ersin Hussein, Louise Miskell, Mai Musie, Louise Coyne ac Imogen Dobie. Aeth llawer o aelodau staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-raddedig i'r digwyddiad.

Meddai'r academydd, Louise Coyne,

"Y canlyniad allweddol o'r cyflwyniadau oedd iddynt ddangos ffyrdd gwahanol i fyfyrwyr o ystyried rolau menywod ar draws lleoedd a chyfnodau gwahanol. Roedd yn arddangosfa wych o'r ymchwil anhygoel sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd gan glasurwyr a haneswyr benywaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl y digwyddiad, gwnaethom fwynhau llawer o sgyrsiau anffurfiol â myfyrwyr am hanes menywod ynghyd â bwyta creision a theisenni! Ar ôl llwyddiant y panel hwn, rydyn yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Hanes a Threftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i https://www.swansea.ac.uk/cy/hanes/ 

Rhannu'r stori