Mae ymchwilydd Ieithoedd Modern wedi lansio prosiect rhyngwladol, o'r enw Elias Canetti and the British in a European Context: Exile, Reception, Appropriation, i archwilio profiadau’r llenor adnabyddus o’r 20fed ganrif, Elias Canetti (Enillydd Gwobr Nobel 1981) fel alltud ym Mhrydain.

Mae’r cydweithrediad rhwng yr Athro Julian Preece o Brifysgol Abertawe a'r Athro Sven Hanuschek o Ludwigs-Maximilian Universität ym Munich, Elias Cannetti and the British, yn cael ei gefnogi gan Dr Jack Arscott fel Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol wedi'i rannu. Wedi'i ariannu gan y Cynllun Cydweithredu rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Deutsche Forschungsgemeinschaft (DFG, Cyngor Ymchwil yr Almaen), bydd y prosiect yn cael ei gynnal am dair blynedd gyda grant o £290,000 yn cael ei ddyfarnu i Brifysgol Abertawe.

Bydd y triawd o ymchwilwyr Eingl-Almaenig yn creu ystod o allbynnau yn cynnwys tair fersiwn o arddangosfa deithiol (yn Saesneg, Almaeneg a Chymraeg), a chynhadledd ryngwladol o'r enw Elias Canetti: A British European, antholeg o ysgrifennu Canetti ar fywyd Prydeinig wedi’i gyfieithu i’r Saesneg a monograff ysgolheigaidd wedi'i gyd-ysgrifennu.

Wedi'i eni ym Mwlgaria ym 1905 i deulu o Iddewon Seffardig, treuliodd Elias Canetti ran o'i blentyndod ym Manceinion cyn dychwelyd i'r DU ym 1939 fel ffoadur heb wladwriaeth. Yn ystod ei flynyddoedd o alltudiaeth yn byw'n bennaf ym mwrdeistref Hampstead yn Llundain, ysgrifennodd ei gampwaith, Crowds and Power (1960). Ymroddodd Canetti, a oedd â PhD mewn Cemeg o Brifysgol Fienna, ei fywyd i ysgrifennu, wedi'i gefnogi'n ariannol gan ei deulu a'i ddarllenwyr cyfoethog. Mae ei ddyddiaduron a’i lyfrau nodiadau'n manylu ar ei argraffion o fywyd Prydeinig, yn cynnwys ei sylwadau ar system dosbarthiadau Prydain, amlddiwylliannaeth Llundain, ac etifeddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd ei ffrindiau agos yn cynnwys Iris Murdoch, Kathleen Raine, Gavin Maxwell a Veronica Wedgewood. Cofnododd ei brofiadau gyda llawer o ffigyrau eraill o fywyd diwylliannol a chyhoeddus, megis y beirdd T.S. Eliot a Stevie Smith a'r cyfansoddwr Ralph Vaughan Williams.

Daw'r prosiect ymchwil ar adeg pan fo dadleuon am fudo a lloches gwleidyddol yn ganolog i drafodaethau ynghylch hunaniaethau cenedlaethol yn Ewrop. Mae profiadau Canetti fel alltud ym Mhrydain yn parhau'n gymharol anhysbys, yn enwedig yn y DU, yn sgîl y ffaith bod ffynonellau allweddol heb eu cyhoeddi neu heb eu cyfieithu, a bu llawer ohonynt dan embargo tan yn ddiweddar.

Yn nodedig, mae'r prosiect yn amlygu dau gysylltiad penodol ag Abertawe: Cyfarfu Canetti â'r bardd Cymreig Dylan Thomas ac aeth i’w ddigwyddiad coffa, a cheir manylion am hyn yn ei ddyddiaduron sydd newydd eu rhyddhau. Yn ogystal, cafodd ei nofel  Auto-da-Fé  ei hyrwyddo gan y damcaniaethwr diwylliannol Cymreig Raymond Williams, y mae ei bapurau’n cael eu cadw yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnaeth yr awduron Cymraeg-Iddewig, Bernice Rubens a Dannie Abse, a oedd yn adnabod Canetti yn Llundain, gofnodi eu hargraffion ohono hefyd.

Mynegodd Yr Athro Julian Preece ei gyffro am y cydweithrediad: "Mae'n bleser mawr gennyf weithio gyda Sven Hanuschek, un o fywgraffyddion uchaf eu parch yr Almaen, i ddarganfod mwy am ryngweithiadau Canetti ag awduron a meddylwyr Prydeinig yn ystod ei  alltudiaeth yn Llundain rhwng 1939 a’r 1970au hwyr. Fel bywgraffydd Canetti, mae Sven yn adnabod yr Archif yn Zurich, sy'n cadw papurau Canetti, yn well nag unrhyw ysgolhaig arall. Daeth dyddiaduron toreithiog Canetti ar gael i'r cyhoedd ar 14 Awst 2024, 30 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, sy'n golygu hwn yn amser perffaith ar gyfer y prosiect hwn. Bydd yr arddangosfa'n teithio o amgylch Cymru. Rydym eisoes yn cynnwys myfyrwyr MA Cyfieithu wrth baratoi'r antholeg."

Mae'r prosiect hwn yn addo taflu golau newydd ar fywyd yn o ffigyrau mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif mewn llenyddiaeth Ewropeaidd, gyda ffocws penodol ar ei amser ym Mhrydain ac effaith ei alltudiaeth ar ei gynnyrch llenyddol.

 

Rhannu'r stori