Rydym wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Strategol Rhanddeiliaid i ymestyn y llwybrau ar gyfer ymgysylltu â charfanau yn ystod ac ar ôl graddio; a darparu mewnbwn sganio gorwel o ran newidiadau rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol a sut y gallai'r Ganolfan ymateb i'r rhain.
Mark Casey
Mark Casey sy'n arwain swyddogaeth Ymchwil ac Arloesi Swyddfa Hydrograffig y DU. Mae gan Mark 30 mlynedd o brofiad o ddefnyddio data daearofodol i gynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau llywio yn y meysydd Awyr a Môr. Treuliwyd 22 mlynedd i ddechrau yn yr Awyrlu Brenhinol yn gwneud mapiau, siartiau a chyhoeddiadau awyrennol ar gyfer yr RAF a chyd-luoedd ehangach ac mae wedi treulio'r 8 mlynedd ddiwethaf yn Swyddfa Hydrograffig y DU yn arwain y tîm Ymchwil ac Arloesi wrth archwilio technolegau ac offer newydd i greu data morol newydd a llywio Prawf Cysyniadau ar gyfer Amddiffyn y DU a'r marchnadoedd morwrol masnachol.
Prof Helen Griffiths
Penodwyd yr Athro Helen Griffiths yn Ddirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb am Ymchwil an Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Awst 2020.
I gael cofiant llawn, dilynwch y ddolen hon: https://www.swansea.ac.uk/about-us/senior-leadership-team/helen-griffiths-biography/
Dr Jonathan Burnes
Dr Jonathan Burnes
Gan ymuno o Brifysgol Abertawe, mae Dr Jonathan Burnes yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r portfoliobuddsoddi gwerth £1.3 biliwn ledled De-orllewin Cymru. Mae Dr Burnes wedi dal nifer o swyddi uwch yn y brifysgol yn ystod y 12 mlynedd diwethaf. Mae'r rhain yncynnwys Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Gwasanaethau a Systemau; Rheolwr Datblygu Strategaeth Ddigidol; aChyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Phrosiectau Strategol. Fel Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig, bydd Dr Burnes yn sefydlu ac yn arwain Swyddfa RheoliRhaglenni'r Fargen Ddinesig newydd a fydd yn cydlynu potfolio o brosiectau mawr ar draws Rhanbarth DinasBae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Nod rhaglen y Fargen Ddinas yw creu amodau sy'n denu busnes ac sy'n ysgogi twf economaidd i'r RhanbarthDinas, gan ei gwneud yn lle mwy deniadol fyth i fyw, gweithio, gwneud busnes a buddsoddi ynddo.
Laura Clark
Laura Clark yw Rheolwr Gwerth a Phartneriaeth y GIG ar gyfer y DU yn Amicus Therapeutics. Fel Rheolwr Gwerth a Phartneriaeth y GIG mae Laura yn gyfrifol am arwain cydweithredu strategol ar draws y GIG, y diwydiant gwyddor bywyd a’r byd academaidd. Dechreuodd Laura ei gyrfa yn Pfizer Pharmaceuticals ac mae ganddi 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant fferyllol mewn nifer o swyddi gweithredol a masnachol uwch, gan ddatblygu a darparu rhaglenni strategol ledled y DU i gefnogi cydweithrediadau gwyddor bywyd gyda systemau iechyd i wella iechyd a llesiant a chyflawni canlyniadau sydd o bwys i gleifion. Ar hyn o bryd mae Laura yn arwain y cydweithrediad Amicus â Phrifysgol Abertawe, sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion ym maes afiechydon prin.
Dr Peter Waggett
Mae Dr Peter Waggett wedi cael gyrfa ymchwil a datblygu hirfaith. Dechreuodd weithio fel Uwch Wyddonydd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Marconi ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Technoleg sy’n Datblygu i IBM. Mae wedi cynghori nifer o gleientiaid y sector cyhoeddus a’r sector preifat ar sut mae harneisio technolegau arloesol ac aflonyddol ac wedi gweithredu fel arbenigwr pwnc ar sawl prosiect mawr.
Mae bellach yn arwain tîm o arbenigwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu systemau cyntaf o’u math a phrototeip gan ddefnyddio asedau ymchwil a datblygu ar gyfer cleientiaid a phartneriaid IBM. Mae’r tîm wedi’i leoli yn labordy Hursley IBM ger Caer-wynt ac yng Nghanolfan Hartree ger Daresbury. Mae’r tîm yn cynnwys datblygwyr cynigion cyfrifiadura gwybyddol a datrysiadau dadansoddol ‘data mawr’ Watson IBM.
Joanne Humphries
Mae Joanne Humphries yn rheolwr portffolio yn y thema TGCh yn EPSRC, lle mae’n gofalu am feysydd ymchwil yn cynnwys Rhyngweithio Dynol-Gyfrifiadurol, Cyfathrebu Dynol mewn TGCh a Phrosesu Iaith Naturiol.